Newyddion S4C

Cadeirydd y BBC yn gwadu gwrthdaro buddiannau ynghylch benthyciad Boris Johnson

24/01/2023
Sharp / Johnson

Mae Cadeirydd y BBC wedi dweud nad yw'n credu fod yna unrhyw wrthdaro buddiannau ynghylch ei benodiad. 

Daw sylwadau Richard Sharp wedi iddi ddod i'r amlwg iddo helpu'r prif weinidog ar y pryd, Boris Johnson, i sicrhau benthyciad o hyd at £800,000 ar ddiwedd 2020. 

Dywedodd Mr Sharp fod y broses wedi cael ei chynnal mewn ffordd "gywir", a gwadodd iddo gamarwain y panel cynghori ac aelodau seneddol pam ymddangosodd gerbron y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan. 

Roedd Mr Sharp wedi wynebu galwadau i ymddiswyddo ar ôl i honiadau ddod i'r amlwg iddo drafod a allai ei ffrind ymddwyn fel gwarantwr ar gyfer benthyciad i Mr Johnson. 

Ond mae Mr Sharp yn mynnu y bydd yn aros yn ei rôl fel Cadeirydd y BBC, a dywedodd ei fod yn hyderus iddo dderbyn ei swydd yn y ffordd gywir. 

Daeth i'r amlwg ddydd Llun y byddai'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn adolygu’r broses o benodi Richard Sharp er mwyn sicrhau bod hynny wedi digwydd mewn modd "teg, agored ac yn haeddiannol."

Dywedodd William Shawcross ei fod am sicrhau fod "y broses wedi ei chynnal yn unol â chod llywodraethu'r Llywodraeth ar gyfer penodiadau cyhoeddus".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.