Trwyddedu llymach ar artistiaid tatŵs yng Nghymru
Bydd angen i artistiaid tatŵ a phobl sy'n gweithio fel tyllwyr corff gael trwydded fel rhan o gynllun newydd yng Nghymru.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Yr Athro Syr Frank Atherton, wedi dweud y bydd y cynllun hefyd yn effeithio ar golur hirdymor, nodwyddo ac electrolysis.
Bwriad y cynllun yw lleihau heintiau, gwaredu ar arferion gwaith gwael a chreu rhestr gyhoeddus ar gyfer busnesau a gweithwyr sydd wedi eu trwyddedu.
Yn ôl amcangyfrifon y llywodraeth, mae 3,516 o weithwyr yn y maes yng Nghymru a fydd angen trwydded, a 1,868 safle a fydd angen eu cymeradwyo dan y cynllun.
Mae rhai ymarferwyr eisoes wedi cwblhau'r Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau - gyda 95% o'r rheiny yn llwyddo.
Dyma gam olaf newidiadau a gafodd eu cyflwyno yn rhan o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal dros gyfnod o 12 wythnos er mwyn casglu barn rhanddeiliaid.
Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Yr Athro Syr Frank Atherton: “Mae’n hanfodol sicrhau bod safonau effeithiol ar gyfer hylendid a rheoli heintiau yn cael eu gweithredu gan bob ymarferydd triniaethau arbennig a busnesau gan fod y triniaethau hyn yn gallu achosi niwed os nad ydynt yn cael eu darparu’n iawn.
“Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn sicrhau bod y cleientiaid a’r ymarferwyr yn cael eu diogelu’n effeithiol bob tro. Dw i’n falch iawn o weld bod y newidiadau hyn yn cael eu croesawu gan y rhan fwyaf o ymarferwyr yng Nghymru, gyda llawer ohonyn nhw eisoes yn fodlon cadw at y safonau newydd yn wirfoddol.
“Rydyn ni’n awyddus i gael ymatebion i’r ymgynghoriad gan yr holl randdeiliaid, yn enwedig y rheini sy’n ymarferwyr hunangyflogedig a’r rheini sy’n gweithredu fel busnesau bach.”