Ymchwilio i ddau achos o gynnau tân bwriadol yng Ngwynedd
Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i ddau achos o gynnau tân yn fwriadol yng Ngwynedd.
Mae’r digwyddiad cyntaf yn ymwneud â thân mewn ysgubor ar 14 Ionawr ar Heol Clynnog, Penygroes.
Mae'r ail achos yn ardal Clwt-Y-Bont, Caernarfon ar 22 Ionawr pan gynheuodd tân mewn garej fawr a ymledodd hefyd i ddau gerbyd.
Mae’r heddlu yn ymchwilio i weld a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Dywedodd yr Arolygydd Kirsty Miller: “Rydym yn ymchwilio i ddau ddigwyddiad gwahanol o gynnau tân bwriadol yn ardaloedd Penygroes a Chlwt-y-Bont.
“Mae cynnau tân yn fwriadol nid yn unig yn anghyfreithlon ond gall hefyd arwain at ganlyniadau dinistriol. Roedd y safle dan sylw yn cynnwys cynwysyddion nwy, ac felly roedd adeiladau cyfagos mewn perygl.
“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau hyn, neu wedi gweld unrhyw ymddygiad amheus yn yr ardaloedd, yna rwy'n eich annog i gysylltu â’r heddlu ar unwaith.”
Mae modd cysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu'r cyfeirnod 23000040641.