Newyddion S4C

Nofio mewn dŵr oer er mwyn profi amodau'r digartref

ITV Cymru 23/01/2023
nofwyr

Mae tua 60 o bobl wedi bod yn nofio mewn dŵr oer ym Mhwll Nofio Awyr Agored Cenedlaethol Cymru ym Mhontypridd er mwyn ceisio profi'r oerfel y mae pobl sy'n ddigartref yn ei ddioddef. 

Mae'r pwll fel arfer yn cael ei gynhesu, ond dŵr oer oedd ynddo ar gyfer yr ‘Her Iâ’ a gafodd ei threfnu gan yr elusen Crisis.

Roedd nifer o'r nofwyr mewn gwisg ffansi.

Dywedodd Ashella Lewis, Cyfarwyddwr Crisis Skylight De Cymru: “Rydym ni mor ddiolchgar i bawb a gymrodd ran heddiw. Gallaf gadarnhau ei bod hi'n oer iawn!”

“Mae hi wedi bod yn hwyl - ac roedd y gwisgoedd ffansi yn ffantastig - ond mae yna achos difrifol yn gefndir i hyn i gyd!”

“Yn Crisis Skylight De Cymru, rydym yn gweithio’n galed iawn i helpu pobl roi'r gorau i fod yn ddigartref,  a diolch i bobl am gymryd rhan a chodi arian. Trwy ddigwyddiadau fel hyn, rydym yn gallu parhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl sydd ei hangen.”

Dywedodd Helen Radia, Cyfarwyddwr Codi Arian yn Crisis: “Roedd hi’n fendigedig i weld cymaint o bobl yn ymuno i’n helpu ni i godi arian ar gyfer pobl sydd yn wynebu digartrefedd.”

“Fe wnaeth pawb ddangos ymrwymiad mawr trwy neidio i mewn i’r pwll, a roeddwn i’n caru rhai o’r gwisgoedd!

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cydweithwyr.

“Mae eu hymdrechion i’n helpu ni i gefnogi pawb sydd ein hangen, yn enwedig wrth i fwy a mwy o bobl gael eu gorfodi i mewn i dlodi a pherygl o ddigartrefedd wrth i’r argyfwng costau byw barhau."

Llun: Crisis 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.