Newyddion S4C

Galw am dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

24/01/2023
gwaith gweithwyr swyddfa unsplash

Mae angen i Lywodraeth Cymru gynnal treialon ar leihau'r wythnos waith i bedwar diwrnod, yn ôl adroddiad gan bwyllgor seneddol.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn awyddus i'r llywodraeth dreialu'r wythnos waith o fewn y sector cyhoeddus.

Byddai pobl yn gweithio am bedwar diwrnod yr wythnos yn lle pump ond yn derbyn yr un cyflog.  

Mae'r Llywodraeth yn dweud eu bod yn cadw golwg ar dreialon wythnos waith fyrrach mewn gwledydd eraill.

Daw'r adroddiad yn dilyn deiseb a gafodd ei chyflwyno i'r Senedd gan y dyn busnes o'r Barri, Mark Hooper.

Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi casglu tystiolaeth ar leihau'r wythnos waith, gan ystyried yr effaith ar gynhyrchiant, llesiant a'r economi.

Mae'r pwyllgor yn awyddus i'r treialon gael eu hasesu'n annibynnol ochr yn ochr â threialon sydd eisoes ar waith o fewn y sector preifat.

Mae sawl gwlad eisoes wedi cymryd camau tuag at gyflwyno patrwm gwaith tebyg, gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon, Sbaen a Seland Newydd.

Dywedodd Jack Sargeant AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd: “Mae’n gynnig beiddgar ond nid yn fwy beiddgar na nod yr ymgyrchwyr hynny a frwydrodd dros weithio pum niwrnod yr wythnos, a thros wyliau â thâl a thâl salwch, ac eto rydym bellach yn eu cymryd yn ganiataol.

“Mae pobol Cymru ymhlith y bobl sy’n gweithio’r oriau hwyaf yn Ewrop. Er gwaethaf yr oriau hir, mae cynhyrchiant yn isel yn y DU, ac wrth fanylu ar y cysylltiad rhwng yr oriau gwaith a chynhyrchiant cyfatebol gallwn ddechrau ystyried yr wythnos waith pedwar diwrnod yn wahanol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dilyn treialon mewn gwledydd eraill â diddordeb.  Mae wythnos waith fyrrach yn un enghraifft yn unig o weithio hyblyg; rydym am annog mwy o gyflogwyr i ddarparu mwy o ddewis a hyblygrwydd i weithwyr, lle bynnag fo hynny'n bosib."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.