Gwobrau'r Razzies yn enwebu ffilmiau gwaethaf y flwyddyn
Mae gwobrau'r Golden Raspberry, neu'r Razzies, wedi cyhoeddi rhestr o enwebiadau ar gyfer yr actorion a'r ffilmiau gwaethaf ar gyfer 2022.
Wrth i sêr Hollywood edrych ymlaen at dymor o seremonïau gwobrwyo, y Razzies yw'r unig restr enwebiadau y bydd actorion a chyfarwyddwyr yn geisio ei osgoi.
Wedi'i sefydlu yn 1981, mae'r Razzies yn cydnabod perfformiadau a ffilmiau gwaethaf y flwyddyn.
Daw eu henwebiadau ddiwrnod cyn i'r Oscars, y gwobrau mwyaf ar gyfer y diwydiant ffilm, gyhoeddi eu rhestr ddydd Mawrth.
Y ffilm Netflix Blonde sydd ar frig y rhestr eleni, gydag wyth o enwebiadau, gan gynnwys y ffilm waethaf, y sgript waethaf a'r cyfarwyddwr gwaethaf.
Fe wnaeth y Razzies ddisgrifio’r ffilm, sydd yn dilyn hanes Marilyn Monroe, fel y "ffilm yr oedd gwylwyr cyffredin yn ei gasáu yn fwy na'r beirniaid."
Y seren Tom Hanks - sydd wedi hen arfer derbyn gwobrau'r Oscars a'r Golden Globes - sydd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau'r Razzies ar gyfer unrhyw actor eleni.
Bu'r beirniaid yn feirniadaol iawn o berfformiadau Hanks yn ystod y flwyddyn, a hynny am ei ran yn ffilmiau Pinnochio ac Elvis.
Y ffilmiau eraill sydd wedi ennill nifer fawr o enwebiadau yw Good Mourning gyda saith, Pinnochio gyda chwech a Morbius gyda phump enwebiad.