Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i ymchwilio i benodiad Cadeirydd y BBC
Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus wedi dweud y bydd yn adolygu’r gystadleuaeth i benodi Richard Sharp fel Cadeirydd y BBC.
Dywedodd William Shawcross ei fod am sicrhau bod "y broses wedi ei chynnal yn unol â chod llywodraethu'r Llywodraeth am benodiadau cyhoeddus".
Yn gynharach, roedd Mr Sharp wedi gofyn i un o baneli'r BBC archwilio i weld os oedd yna unrhyw wrthdaro buddiannau yn ymwneud â'i rôl wrth helpu Boris Johnson i sicrhau benthyciad ariannol.
Cafodd Mr Sharp ei benodi yn gadeirydd y darlledwr tra yr oedd Mr Johnson yn brif weinidog.
Y gred yw ei fod yn gysylltiedig â threfnu gwarant ar fenthyciad o hyd at £800,000 ar gyfer Mr Johnson ar ddiwedd 2020.
Mewn datganiad, fe wnaeth Mr Sharp gydnabod nad oes croeso i "bethau fel hyn sydd yn tynnu sylw" a dywedodd ei fod wedi gofyn i'r pwyllgor enwebiadau ar fwrdd y BBC i ymchwilio i'r mater.
"Mae ymddiriedaeth wrth wraidd y BBC. Er bod penodi cadeirydd y BBC yn fater ar gyfer y Llywodraeth, dwi eisiau sicrhau fod y canllawiau priodol wedi eu dilyn yn y BBC ers i mi ymuno," meddai.