Newyddion S4C

Faniau mesur cyflymder ar yr M4 o ddydd Llun ymlaen

22/01/2023
Llun fan heddlu gan Heddlu De Cymru. Llun yr M4 gan Ben Salter (CC BY 2.0).
Llun fan heddlu gan Heddlu De Cymru. Llun yr M4 gan Ben Salter (CC BY 2.0).

Bydd faniau mesur cyflymder gyrwyr yn cael eu gosod ar yr M4 o ddydd Llun.

Fe wnaeth yr heddlu ddweud y bydd yn faniau yn cadw llygad ar yr M4 rhwng cyffordd 33 a 34, sy’n arwain o orllewin Caerdydd at y troad i’r Rhondda.

Roedd hyn oherwydd “cynnydd mewn nifer o wrthdrawiadau a achosir gan gyflymder,” medden nhw.

Roedd tri arolwg cyflymder mewn gwahanol rannau o’r M4 wedi darganfod lle yn union i osod y faniau, medden nhw.

Fe wnaeth y tri arolwg fesur cyfanswm o 213,371 o gerbydau, gan ddarganfod bod 70,713 o yrwyr yn teithio dros y terfyn cyflymder, gan gynnwys 6,109 yn teithio ar 85 milltir yr awr neu fwy.

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GoSafe: “Mae cyflymder yn cyfrannu'n enfawr at wrthdrawiadau ar ein ffyrdd.

“Ac os bydd gwrthdrawiad yn digwydd ar gyflymder uchel, yn aml iawn bydd hyn yn arwain at ddamwain ddifrifol fydd yn cael effaith drychinebus ar deuluoedd.

“Bydd cyflwyno'r camau gorfodi yn y lleoliadau hyn yn gwella cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder ac yn helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel ar ein ffyrdd.”

Wrth ymateb i sylwadau negyddol ar dudalen Facebook yr heddlu, dywedodd Heddlu De Cymru nad oedden nhw'n derbyn y dadleuon yn erbyn gosod y faniau.

"Mae pobol yn dweud 'Codi arian yn unig yw hyn', 'da chi'n trio dal pobl allan' a 'gwnewch ychydig o waith heddlu go iawn' ac maen nhw i gyd yn bethau yden ni wedi’u clywed o’r blaen, ond os nad ydych chi’n goryrru, fyddwch chi ddim yn cael eich dal," medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.