Cyhuddo Undeb Rygbi Cymru o ‘ddiwylliant gwenwynig’ a ‘rhywiaeth’
Mae cyn-weithwyr i Undeb Rygbi Cymru wedi cyhuddo’r corff o “ddiwylliant gwenwynig”.
Mae dwy fenyw wedi dweud eu bod nhw wedi ystyried lladd eu hunain ar ôl dioddef rhywiaeth honedig a bwlio o fewn y corff.
Fe wnaeth un fenyw honni ei bod hi wedi sgrifennu dogfen i’w gŵr am beth i’w wneud ar ôl ei marwolaeth.
Dywedodd menyw arall wrth BBC Investigates am y foment mae’n honni i gydweithiwr gwrywaidd ddweud yn gyhoeddus ei fod am ei “threisio" hi.
Mae’r honiadau yn cael eu darlledu mewn rhaglen ddogfen ar BBC One Wales nos Lun am 20:00.
Wrth ymateb, dywedodd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Tonia Antoniazzi, sydd nawr yn aelod seneddol Llafur, fod yr honiadau “ar yr un lefel” a sgandal hiliol criced Swydd Efrog.
Daw hyn ar yr un diwrnod y mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn ymuno a thimoedd eraill i lansio’r Chwe Gwlad.
Dywedodd URC eu bod yn cymryd unrhyw honiadau gan staff am ymddygiad, agwedd neu iaith yn ddifrifol ac nad oes lle i ymddygiad o’r fath yn URC neu rygbi Cymru.
Ychwanegodd yr undeb y byddant yn ymateb yn gyflym os bydd unrhyw honiad yn cael ei gadarnhau.
Honiadau
Cafodd Charlotte Wathan ei chyflogi gan URC yn 2018 i drawsnewid gêm y menywod. Mae'n disgrifio iddi glywed dyn yr oedd hi’n gweithio gydag ef yn dweud ei fod am ei “threisio” hi o flaen staff yn y swyddfa, gan gynnwys uwch reolwr.
Dywedodd: “Rwy’n cofio bod mewn sioc gan feddwl: 'Nes i glywed hwnna?’
“Roedd pawb yn chwerthin, ac roedd uwch aelod o staff yno.
“Fe adewais y stafell a chrio. O'n i yn teimlo yn sâl.”
Cafodd y digwyddiad ei ymchwilio gan gyfreithiwr annibynnol a gyflogwyd gan URC ar ôl i Ms Wathan godi’r mater fel rhan o gwyn ehangach.
Rhoddodd Ms Wathan restr o lygad dystion posib i’r cyfreithiwr ond dywedodd y BBC na chysylltwyd gyda rhai ohonynt.
Ni chafodd y dyn a honnwyd iddo wneud y sylwadau ei gyfweld fel rhan o’r ymchwiliad. Mae’n dal i weithio i URC.
Dywedodd URC wrth y BBC fod honiadau Ms Wathan yn dal heb eu cadarnhau yn dilyn ymchwiliad cyfreithiol annibynnol. Ychwanegodd yr undeb nad oeddynt yn medru rhoi sylw pellach. Y rheswm medden nhw oedd bod yr achos wedi ei setlo ers cyfweliad Ms Wathan gyda’r BBC mewn modd oedd yn cael ei ddisgrifio fel “cytundeb cyfeillgar” gan y ddwy ochr.
Eisiau 'lladd ei hun'
Dywedodd un fenyw arall, oedd eisiau aros yn anhysbys, fod bwlian a rhywiaeth wedi peri iddi deimlo fel lladd ei hun.
Dywedodd wrth y rhaglen: “Doedd hyn ddim yn ymwneud â digwyddiad fan hyn a digwyddiad fan draw. Roedd yn ymwneud gyda thanseilio fi yn gyson neu fy rhyw trwy bigio ar bethau dibwys yn gyson.
“Es i mor bell a pharatoi dogfen i’m gŵr am beth i wneud tase ni'n marw.”
Dywedodd iddi gael cyngor i wneud cwyn yn erbyn y rheolwr ond roedd hi’n ofni byddai hyn yn gwneud ei bywyd yn anoddach.
Yn hytrach, gadawodd URC yn 2018 ond dywedodd iddi roi enw’r rheolwr i’r adran adnoddau dynol.
Dywedodd URC fod yna ymchwiliad wedi ei gynnal a gweithdrefnau pwrpasol wedi eu dilyn.
Ychwanegodd URC eu bod yn flin i glywed sut roedd pobl yn yr adroddiad wedi teimlo ac y byddant yn parhau i weithio gyda'u staff i sicrhau eu bod yn teimlo wedi eu gwerthfawrogi ac yn cael eu clywed.
Galw am ymchwiliad
Mae Aelod Seneddol Gwyr, Tonia Antoniazzi, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff annibynnol i oruchwylio cyrff llywodraethu chwaraeon Cymru ac i'w dal i gyfrif.
Mae hefyd am i’r Senedd sefydlu ymchwiliad i’r honiadau dan arweiniad pwyllgor craffu.
Dywedodd URC eu bod nhw wedi eu hymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad. Mae datblygiad y gêm menywod yn fwriad strategol i’r corff a bydd yn parhau felly yn y dyfodol meddai'r undeb.
Ychwanegodd Prif Weithredwr URC, Steve Phillips na fydd URC “byth yn hunanfodlon”.
Llun: Charlotte Wathan gan y BBC.