Rhagor o ddogfennau cyfrinachol yn cael eu canfod yn nhŷ Joe Biden
Mae Adran Gyfiawnder yr UDA wedi canfod chwech yn rhagor o ddogfennau cyfrinachol yng nghartref yr Arlywydd Joe Biden yn nhalaith Delaware.
Mae rhai o’r dogfennau yn ymwneud a’i gyfnod fel seneddwr ac eraill pan oedd yn is-arlywydd i Barack Obama.
Dywedodd ei gyfreithiwr fod “nodiadau ysgrifenedig personol” a “deunydd eraill” yno.
Nid oedd Arlywydd Biden na’i wraig yn bresennol ac mae Mr Biden wedi rhoi mynediad i’w gartref i’r adran gyfiawnder.
Ym mis Tachwedd y llynedd cafodd dogfennau cyfrinachol eu darganfod yn y Penn Biden Center, melin drafod a sefydlwyd gan yr Arlywydd Biden yn Washington DC.
Mae’r cyn-arlywydd Donald Trump yn wynebu ymchwiliad troseddol ar sail honiadau o gamddefnyddio dogfennau cyfrinachol.
Llun: lovePROPERTY