Galw am gadw elw Stad y Goron yng Nghymru
Mae AS o Gymru wedi ysgrifennu at Balas Buckingham yn galw ar y Brenin Charles i sicrhau fod unrhyw elw o Stad y Goron yn aros yng Nghymru.
Cyhoeddwyd ddydd Iau fod y Brenin Charles III wedi gofyn am i elw sydd yn cael ei greu gan ffermydd gwynt newydd Stad y Goron i gael ei ddefnyddio "er lles y cyhoedd."
Mae'r Goron wedi cyhoeddi cytundebau prydlesu newydd ar gyfer chwe fferm wynt o amgylch arfordir y DU ddydd Iau.
Mae tair fferm ar y rhestr wedi'u lleoli ger arfordir gogledd Cymru yn y Môr Gwyddelig.
Fe fydd y ffermydd gwynt yn talu tua £1 biliwn i Stad y Goron bob blwyddyn, ond mae'r Brenin wedi gofyn i unrhyw arian ychwanegol i gael ei ddefnyddio ar gyfer y cyhoedd ac nid ar gyfer y teulu brenhinol.
Ond dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, y dylai yr elw fynd i gymunedau yng Nghymru.
“Efallai eich bod chi eisoes yn gwybod fod Stad y Goron yng Nghymru dan reolaeth San Steffan, ond wedi ei ddatganoli i'r Alban ers 2017,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae cefnogaeth yn tyfu yng Nghymru i Lywodraeth Cymru dderbyn yr un grymoedd a’r Alban fel bod modd i bobl Cymru elwa yn uniongyrchol ar gyfleoedd economaidd ynni adnewyddadwy ar dir Stad y Goron.”
‘Gwaith da’
Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud nad oes angen datganoli Stad y Goron i Gymru.
Wrth gael ei holi y llynedd, dywedodd y Gweinidog Busnes ac Egni ar y pryd, Greg Hands, nad oedd yn gweld “beth oedd y broblem”.
“Mae Stad y Goron yn gwneud gwaith da ar draws y genedl,” meddai.
“Dydw i ddim yn ymwybodol fod problem gyda Stad y Goron, a beth allai wella neu waethygu o ganlyniad i ddatganoli Stad y Goron i Gymru.”
Mae Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, wedi dweud ei bod hi’n “cytuno” y dylid datganoli Stad y Goron i Gymru.
Llun: Y Brenin Charles a Liz Saville Roberts