Newyddion S4C

AS Ceidwadol yn herio ymgyrchydd Brexit o Gymru i ornest bocsio

20/01/2023
Steven Bray, llun gan Garry Knight (CC0 1.0). Lee Anderson, llun gan David Woolfall (CC BY 3.0).

Mae AS Ceidwadol wedi herio ymgyrchydd Brexit o Gymru i ornest bocsio.

Mae Steven Bray o Bort Talbot yn fwyaf enwog am ei ymgyrch parhaus gerllaw Senedd San Steffan i atal Brexit.

Ond dros y misoedd diwethaf mae wedi dadlau yn eiriol yn aml gyda’r AS Ceidwadol Lee Anderson.

Cafodd eu ffrae ddiweddaraf ei gwylio dros un miliwn o weithiau ar Twitter.

Mae Lee Anderson bellach wedi cynnig cyfaddawd, sef gornest focsio.  Os yw Steve Bray yn ennill bydd rhaid i’r AS Ceidwadol ymuno â’i brotest.

Ond os ydi Lee Anderson yn ennill bydd rhaid i Steven Bray roi’r gorau i’w ymgyrch am byth.

“Mae o wedi gwneud hwyl ar ben fy mhwysau i.  Felly dyma’r her,” meddai Lee Anderson wrth bodlediad Chopper’s Politics.

“Yr her ydi i gwrdd â fi yn y cylch bocsio.  Tair rownd.  Os ydw i’n ennill bydd rhaid iddo roi’r gorau i’w brotest.

“Os ydi o’n ennill bydd rhaid i fi ymuno â’r brotest.”

Dywedodd Steve Bray wrth bapur newydd y Telegraph y byddai yn ystyried y cynnig ond y byddai yn rhaid iddo “ddechrau ymarfer corff yn gyntaf”.

Llun: Steven Bray, llun gan Garry Knight (CC0 1.0). Lee Anderson, llun gan David Woolfall (CC BY 3.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.