Newyddion S4C

O greu fideos yn yr ystafell ddosbarth i dros 100,000 o danysgrifwyr YouTube

21/01/2023

O greu fideos yn yr ystafell ddosbarth i dros 100,000 o danysgrifwyr YouTube

Fe ddechreuodd Andrew Forde ei sianel YouTube gyda chasgliad o glipiau ceisiau gan asgellwr Cymru ac ar y pryd Caerdydd, Alex Cuthbert.

Datblygodd hynny i greu mwy o fideos o geisiau gorau chwaraewyr a sgiliau medrus, a hynny o ganlyniad i'w deulu a ffrindiau yn dweud bod ganddo ddawn yn creu'r fideos.

O ddechrau ar liniadur ei rieni, mae Andrew bellach gyda dros 100,000 o danysgrifwyr.

"Yn wreiddiol oni jyst yn defnyddio laptop y teulu, a nesi neud hwnna am tua blwyddyn a os chi'n mynd nôl i wylio nhw ma nhw bach yn half-hearted," meddai.

"Ond trwy jyst wneud un fideo ar ôl yr un, oni 'di dechre wella, oni 'di ffindo ffyrdd i wella'r fideos a wedyn o fewn blwyddyn nesi prynu laptop fy hun a nath e tyfu o fyna."

Anodd cyfleu mewn geiriau

Mae gan Andrew 114,000 o danysgrifwyr i'w sianel Andrew Forde ac mae ei fideod wedi cael eu gwylio dros 159 miliwn o weithiau.

Nid yw'r gŵr o Gaerdydd yn gallu credu bod yr hyn a ddechreuodd fel hobi pan oedd yn fyfyrwir yn yr ysgol wedi troi mewn i siael YouTube llwyddiannus.

"Sai'n siŵr os fi'n gallu cyfleu e mewn geiriau. Mae hyst yn anhygoel i meddwl bod pobol yn cymryd amser mas o dyddie nhw i jyst gwylio fideos fi.

"Yn wreiddiol oni'n meddwl jyst teulu fi oedd mynw i gwylio nhw. Fi dal hn cofio pan nesi ga'l mil o subscribers so ma' jyst yn swreal i weld bod 100,000 o bobol wedi subscribo a gymaimt o bobl jys tn gwylio fideos hefyd."

Image
Plac YouTube Andrew Forde
Derbyniodd Andrew blac arian gan YouTube i'w longyfarch ar gyrraedd 100,000 o danysgrifwyr

Darganfod clipiau

Mae'r clipiau mae Andrew yn eu defnyddio yn ei fideos yn amrywio o gemau Cwpan y Byd yr holl ffordd i gemau clybiau lleol.

Fe all rhai fideos cymryd hyd at flwyddyn i Andrew gwneud, gan fod rhaid iddo ddarganfod digon o glipiau er mwyn gallu creu fideo gyda digon o gynnwys.

Yn gefnogwr brwd Rygbi Caerdydd ac yn mynd lawr i Barc yr Arfau i'w cefnogi, sut mae gan Andrew yr amser i ddarganfod yr holl glipiau?

"Ambell waith os fi jyst yn gwylio gêm ar y penwythnos a fi'n gweld bod chwaraewr wedi gwneud rhywbeth fel sgil dda, nai roi nodyn lawr gyda be' o'dd e wedi 'neud a os oes ffordd i wneud e mewn i fideo.

"Weithiau fi'n ffindo un clip a wedyn ymhen blwyddyn fi 'di ca'l digon trwy jyst edrych ar Twitter, Facebook, jyst YouTube hefyd, a ffindo clipiau bach wedyn rhoi fe mewn i un fideo llawn."

Nid yw clipiau Andrew y ffocysu ar sgiliau medrus yn unig. Os ydy chwaraewr yn chwarae'n dda bydd Andrew yn rhoi clipiau o'i uchafbwyntiau at ei gilydd fel bod pobl yn gallu gweld y gorau o'r chwaraewr.

"Os ma' 'na chwaraewr sydd yn chwarae yn dda fi'n mynd ati i ddarganfod clipiau ar fel BT Sport, Twitter, Facebook. Ma' 'na wefannau hefyd yn cynnwys pob cais ma' ambell chwaraewr wedi sgorio a o hynny allai 'neud y fideos."

Camp lawn i Gymru?

Ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Gatland yn dychwelyd fel prif hyfforddwr, bydd cefnogwyr Cymru yn edrych ymlaen wrth i Gymru herio'r Iwerddon yng ngêm gyntaf y gystadleuaeth ar 4 Chwefror.

Gyda Chwpan y Byd yn yr Hydref hefyd ar feddyliau cefnogwyr, ydy'r dyn sydd yn deall mwy na neb yn meddwl bydd Cymru yn cael Chwe Gwlad i'w gofio?

"Mae'n dda gweld bod Gatland nôl, mae hanes Gatland gyda Cymru yn un weddol dda.

"Fi'n hapus gyda'r squad, blwyddyn diwethaf oedd ddim yr ymgyrch gorau felly os ni gallu neud yn well blwyddyn yma, yn enwedig gyda Cwpan y Byd yn y Hydref.

"Bydd unrhyw bth positif yn mynd i fod yn dda ar gyfer Cwpan y Byd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.