Y Brenin am i elw o ffermydd gwynt y Goron fod 'er lles y cyhoedd'

19/01/2023
Egni gwynt

Mae'r Brenin Charles III wedi gofyn am i elw sydd yn cael ei greu gan ffermydd gwynt newydd Stad y Goron i gael ei ddefnyddio "er lles y cyhoedd."

Mae'r Goron wedi cyhoeddi cytundebau prydlesu newydd ar gyfer chwe fferm wynt o amgylch arfordir y DU ddydd Iau.

Fe allai'r ffermydd greu ynni ar gyfer saith miliwn o gartrefi.

Mae tair fferm ar y rhestr wedi'u lleoli ger arfordir gogledd Cymru yn y Môr Gwyddelig. 

Fe fydd y ffermydd gwynt yn talu tua £1 biliwn i Stad y Goron bob blwyddyn, ond mae'r Brenin wedi gofyn i unrhyw arian ychwanegol i gael ei ddefnyddio ar gyfer y cyhoedd ac nid ar gyfer y teulu brenhinol. 

Stad y Goron yw casgliad o diroedd ac eiddo sydd yn berchen i'r Frenhiniaeth. Fel arfer, mae'r teulu Brenhinol yn derbyn 25% o'r elw mae'r stad yn ei gynhyrchu fel rhan o'r Grant Sofren. 

Y Grant Sofren sydd yn ariannu'r Frenhiniaeth a'i dyletswyddau, gan dalu am ddigwyddiadau a theithiau'r teulu Brenhinol yn ystod y flwyddyn. 

Fel arfer, fe fydd cynnydd yn elw Stad y Goron, fel sydd wedi'i gynhyrchu gan y ffermydd gwynt, yn golygu y bydd y teulu Brenhinol yn derbyn mwy o arian trwy'r Grant Sofren. 

Ond mae'r Brenin wedi gofyn i reolwr ariannol y teulu Brenhinol, Gofalwr y Pwrs Cyfrin i ysgrifennu at Brif Weinidog a Changhellor y DU i sicrhau nad yw'r arian ychwanegol yn mynd i'r teulu brenhinol. 

Dywedodd llefarydd ar ran Palas Buckingham fod y Brenin wedi gofyn am "ostyngiad addas" yn y canran o elw Stad y Goron sydd yn cael ei defnyddio ar gyfer y Grant Sofren. 

"Mae Gofalwr y Pwrs Cyfrin wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a'r Canghellor i rannu dymuniad y Brenin y bydd yr elw ychwanegol yn cael ei defnyddio er lles y cyhoedd ehangach yn lle'r Grant Sofren," meddai. 

Daw hyn wedi i'r Brenin drafod yr argyfwng costau byw yn ystod ei neges Nadolig, gan rannu ei gydymdeimladau gyda phobl sydd yn ei chael yn anodd yn sgil costau uwch. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.