Beth sydd wedi achosi'r gostyngiad yn nifer y plant sy'n siarad Cymraeg?

Beth sydd wedi achosi'r gostyngiad yn nifer y plant sy'n siarad Cymraeg?
Wedi i Gyfrifiad 2021 ddangos bod nifer y plant sy'n medru siarad Cymraeg wedi gostwng, mae academydd iaith yn rhybuddio bod angen cymryd gofal wrth ddehongli'r ystadegau.
Yn ôl y Cyfrifiad, roedd yna ostyngiad o 5.7 pwynt canran ers 2011 yng nghyfran y plant rhwng tair a 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg.
Ond, ar yr un pryd, mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y plant sydd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu 10,000 dros gyfnod tebyg.
Dywedodd Dr Rhian Hodges, sydd yn academydd iaith ym Mhrifysgol Bangor, wrth Newyddion S4C bod angen gofal wrth ddehongli'r "paradocs" o fewn y ffigyrau diweddaraf.
Yn ôl Dr Hodges, gwraidd y broblem yw diffyg cyfleoedd i blant ddefnyddio'r Gymraeg.
"Dwi’n meddwl bod ishe i ni edrych ar gynnig mynediad ehangach i addysg Gymraeg i bawb."
"Dwi’n credu ar hyn o bryd, mae ’na nifer o ddisgyblion ysgol ledled Cymru sydd falle ddim yn cael cyfleoedd teg i fynychu ysgolion lle maen nhw'n derbyn digon o gyfleoedd yn y Gymraeg."
"Felly i fi, wrth edrych ymlaen ar gyfer y Deddf Addysg newydd, 'swn i’n hoffi gweld y cyfleoedd yna’n codi i ddisgyblion Cymru."
Yn Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, mae rhai disgyblion wedi sylwi bod gan ddisgyblion iau lai o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
"Fi ’di gweld gostyngiad yn yr ysgol o bobl sy’n siarad Cymraeg, fi’n credu bod hwnna’n dod o’r Covid a’r pandemig," meddai Tomos, sydd ym mlwyddyn 12.
"Pan o’n i fwy lawr yr ysgol, o’n i’n neud llawer o bethau trwy'r Urdd, o’dd yn siarad Cymraeg,
"Ond fi’n credu gyda Covid,maen nhw’n colli y cyfle i wneud y gweithgareddau a mynd ar teithiau drwy’r Gymraeg."
Mae Osian hefyd wedi sylwi ar y newid yn nefnydd y Gymraeg.
"Fi wedi sylwi bod lot mwy o blant ifancach yn yr ysgol fel Blwyddyn 7 ac 8 yn siarad mwy o Saesneg nag o’n i yn Blwyddyn 7 ac 8," meddai.
"Fi’n siŵr bod pawb yn yr ysgol ’ma wedi sylwi bod yr ysgol wedi mynd bach yn fwy Seisnigaidd."