Agor cwest cyn-Olygydd Radio Cymru Aled Glynne Davies

17/01/2023
Aled Glynne Davies

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth cyn-olygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies.

Clywodd y cwest fod corff Mr Davies wedi ei ddarganfod yn y dŵr ger Canolfan Hwylio Caerdydd am 9.40 fore Mercher, 4 Ionawr. 

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar 13 Ionawr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.  

Esboniodd y Crwner Dr Sarah Richards bod yn rhaid cynnal cwest os ydy rhywun wedi marw mewn modd treisgar, annaturiol neu os nad oedd achos y farwolaeth yn eglur.

Nododd fod y farwolaeth yn un yr oedd angen ymchwilio ymhellach iddi.

Diflannodd Aled Glynne Davies ar Nos Galan a bu'r heddlu a grwpiau o wirfoddolwyr yn chwilio amdano am ddyddiau .

Roedd Mr Davies yn Olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Cyn hynny, roedd yn Olygydd Newyddion BBC Radio Cymru ac yn Uwch Gynhyrchydd ar raglen Newyddion S4C.

Arweiniodd y tîm a sefydlodd gwefan Gymraeg gyntaf erioed y BBC – BBC Cymru’r Byd.

Fe sefydlodd y cwmni cynhyrchu Goriad yn 2007.

Cafodd y cwest ei ohirio tan i ymchwiliad yr heddlu i farwolaeth Mr Davies gael ei gwblhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.