Dyn yn pledio'n ddieuog i lofruddio ei dad yng Ngwynedd
16/01/2023
Dafydd Thomas
Yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, mae dyn 44 oed wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth a dynladdiad ei dad
Bu farw Dafydd Thomas oedd yn 65 oed yn ei gartref ym Minffordd, Gwynedd ar 25 Mawrth 2021.
Roedd Mr Thomas yn gyfarwyddwr ar gwmni Gwynedd Environmental Waste Services (GEWS) Ltd, sydd wedi ei leoli ym Mhenrhyndeudraeth.
Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Tony Thomas ddechrau ddydd Mawrth.