Newyddion S4C

Arestio dyn wedi i chwech o bobl gael eu saethu yn Llundain

16/01/2023
Euston PA

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio lladd ar ôl i chwe unigolyn gael eu hanafu mewn achos o saethu yng nghanol Llundain.

Digwyddodd y saethu tu allan i Eglwys Gatholig St Aloysius ar Heol Phoenix yn Euston am tua 13:30 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Scotland Yard bod peledu shotgun wedi cael eu saethu o gar Toyota C-HR.

Cafodd pedair menyw a dau o blant eu hanafu yn yr ymosodiad ac mae'r ferch ieuengaf sydd yn saith oed yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Heddlu'r Met bod dyn 22 oed wedi ei arestio tua 16:00 brynhawn Sul ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.