Newyddion S4C

Iran 'wedi dienyddio' y dinesydd Prydeinig-Iranaidd Alireza Akbari

14/01/2023
Alireza Akbari

Mae cyfryngau Iran yn adrodd fod awdurdodau'r wlad wedi dienyddio'r dinesydd Prydeinig-Iranaidd Alireza Akbari.

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud bod dienyddio Mr Akbari  yn “weithred ddideimlad a llwfr, wedi’i chyflawni gan gyfundrefn farbaraidd”.

Mewn datganiad gan Asiantaeth Newyddion Myfyrwyr Iran  ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd fod Mr Akbari wedi ei ddienyddio, a hynny "ar gyhuddiadau o lygredd yn y wlad a gweithredu eang yn erbyn diogelwch mewnol ac allanol y wlad trwy ysbïo ar ran Llywodraeth Prydain.”

Roedd Mr Akbari yn gyn-ddirprwy weinidog amddiffyn Iran a gafodd ei arestio yn 2019 a’i gyhuddo o ysbïo ar gyfer MI6.

Roedd yr awdurdodau'n honni fod yr ysbïo yn ymwneud â thrafodaethau niwclear yn y gorffennol rhwng Iran a gwledydd y gorllewin, yn ôl adroddiadau.

Gwadodd y cyhuddiad a dywedodd iddo gael ei arteithio a'i orfodi i gyffesu ar gamera i droseddau nad oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, yn ôl gwasanaeth BBC Persian.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor, Mr Cleverly wedi rhybuddio Tehran fod Llundain yn gwylio’r achos yn “agos”.

Fe gyhoeddodd neges am yr achos ar Twitter ddydd Gwener, gan ddweud: “Ni ddylai cyfundrefn Iran fod mewn unrhyw amheuaeth. Rydym yn gwylio achos Alireza Akbari yn agos.

“Rhaid i Iran beidio parhau â’u bygythiad creulon o ddienyddio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.