Newyddion S4C

Darogan y chwaraewyr allai arwain tîm rygbi dynion Cymru

16/01/2023
Alun Wyn Jones

Mae llawer wedi newid i dîm rygbi Cymru ers i gefnogwyr heidio i Stadiwm y Principality y tro diwethaf. 

Mae Wayne Pivac wedi gadael ei rôl fel prif hyfforddwr ac un o fawrion rygbi Cymru wedi dychwelyd i arwain y gad. 

Gyda Warren Gatland yn cymryd yr awenau am yr ail dro, mae disgwyl sawl newid dros yr wythnosau nesaf.

Mae Gatland eisoes wedi addasu ei dîm hyfforddi, gan gael gwared ar Stephen Jones a Gethin Jenkins a phenodi Alex King a Mike Forshaw yn eu lle fel hyfforddwyr ymosod ac amddiffyn. 

Ond a fydd Gatland yn newid y person sydd yn arwain y tîm ar y cae? 

Ar drothwy cyhoeddiad carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, mae Newyddion S4C yn cymryd cip olwg ar rai o'r chwaraewyr all fod yn gapten yn ystod oes newydd Gatland.

Justin Tipuric 

Image
Justin Tipuric

Justin Tipuric oedd y dyn diweddaraf i arwain Cymru. Dywedodd ar y pryd ei fod "wedi'i synnu" pan gafodd ei enwi fel capten ar gyfer cyfres yr hydref.

Mae'r blaenasgellwr wedi ennill 89 o gapiau dros Gymru, ac fe wnaeth serennu o dan Gatland yn ystod ei gyfnod cyntaf wrth y llyw. 

Cafodd Tipuric ei enwi yn gapten swyddogol dan hyfforddiant Pivac, ond a fydd Gatland yn fodlon i'r blaenwr gadw'r cyfrifoldeb? 

Y broblem fwyaf sydd yn wynebu Tipuric yw bod cystadleuaeth am lefydd yn y tîm cychwynnol. 

Dyw hi ddim yn gyfrinach pa mor gryf yw Cymru yn y rheng ôl, ac mae sawl chwaraewr yn cystadlu ar gyfer y crys rhif 7. 

Nid oes sicrwydd felly y bydd Tipuric yn cael ei ddewis gan godi amheuon wedyn ynglŷn â'r gapteniaeth.  

Dan Biggar 

Image
Dan Biggar

Cyn i Tipuric arwain ei wlad Dan Biggar oedd yn gapten. 

Cafodd y maswr ei enwi fel capten ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2022 wedi i anaf olygu y bu rhaid i Alun Wyn Jones wylio o'r ochr.

Fe wnaeth Biggar, sydd wedi ennill 103 o gapiau, gadw'r cyfrifoldeb er i Jones ddychwelyd i'r garfan ar gyfer y daith i Dde Affrica yn ystod yr haf. 

Cyn cyfres yr hydref cafodd anaf gan olygu bod Tipuric wedi cymryd yr awenau. 

Mae'r maswr bellach yn iach sy'n golygu bod hi'n bosib y bydd yn dychwelyd i'r garfan fel capten. 

Alun Wyn Jones 

Image
Alun Wyn Jones

Yn ôl rhai cefnogwyr ddylai Alun Wyn Jones ddim bod yn rhan o'r tîm cychwynnol, heb sôn am fod yn gapten. 

Ond mae yna wagle yn yr ail reng gyferbyn ag Adam Beard wedi i Will Rowlands ddioddef anaf. 

Fe all Gatland ddewis chwaraewyr iau fel Christ Tshiunza neu Ben Carter ond dyw hi ddim yn syniad gwallgof i feddwl y bydd yr hyfforddwr yn troi at Jones.

Gatland oedd yr un i roi'r cyfle i Jones fod yn gapten am y tro cyntaf yn 2009, ac fe wnaeth y ddau guro sawl pencampwriaeth gyda'i gilydd. 

Wrth i Gatland ddychwelyd i Gymru mewn cyfnod ansefydlog, efallai y bydd yn troi at ddewis mwy cyfarwydd.

Rhywun arall? 

Image
Taulupe Faletau

Mae'n amhosib darogan beth mae Gatland yn ei feddwl a chawn ni ddim gwybod nes i'r garfan cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth. 

Er bod hi'n debygol y bydd unai Tipuric, Biggar neu Jones yn arwain y tîm yn ystod gêm gyntaf y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon, mae hefyd yn bosib y bydd yn penderfynu mynd am ddewis anghonfensiynol. 

Mae Ken Owens a Talupe Faletau yn cynnig opsiynau posib. Mae'r ddau yn brofiadol tu hwnt, ac yn debygol iawn o ddechrau pob gêm os ydynt yn iach. 

Fe all Gatland hefyd edrych tua'r dyfodol, gan ddewis capten am y blynyddoedd ar ôl Cwpan y Byd yn 2023. Mae Adam Beard eisoes wedi bod yn is-gapten, ac efallai yn barod am y cam nesaf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.