Cyfreithiwr yn ymyrryd wrth i gynghorwyr ffraeo dros yr iaith Gymraeg
Roedd cyfreithiwr wedi gorfod ymyrryd mewn ffrae ar gyngor Conwy am deulu oedd yn siarad Cymraeg ac a oedd am ddychwelyd i’r ardal o Gaerdydd.
Clywodd y cyfarfod bod yr ymgeiswyr, Ffion a William Owen, yn gweithio i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ac eisiau dychwelyd i fyw yn Lliwedd, Llangernyw.
Roedden nhw’n gobeithio gweithio o adref ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
Roedd cais i chwalu shed ac adeiladu tŷ yn ei le eisoes wedi ei ganiatáu mewn cyfarfod blaenorol ond roedd rhai ei ategu wedi ei gynghorwyr bleidleisio yn erbyn cyngor swyddogion Conwy.
Roedd swyddogion wedi dweud fod y cynllun yn groes i Gynllun Datblygu Lleol yr ardal ond dywedodd cynghorwyr y byddai o gymorth i’r iaith Gymraeg.
Dywedodd y Cynghorydd Ifor Lloyd bod “rhai ceisiadau yn mynd yn groes i’r Cynllun Datblygu Lleol ond mae’n gywir i’w caniatáu nhw, ac mae hwn yn un o'r rheini”.
“Fel ydan ni wedi ei weld yn y gorffennol, mae rhai pobol yn perthyn i ardal fel y mae anifeiliaid yn perthyn i gynefin ar fynydd, ac mae hwn yn un o’r rheini.”
‘Sathru’
Ond dywedodd cynghorydd Hen Golwyn David Carr nad oedd yn cytuno ac y dylai’r cyngor gadw at ei bolisïau ei hun.
“Ro’n i’n meddwl ei fod yn benderfyniad dadleuol iawn y tro diwethaf i fynd yn erbyn y polisïau mae’r cyngor wedi ei osod i’w hun,” meddai.
“Mae yna lawer iawn o ddatganiadau emosiynol wedi bod. Rydan ni’n gosod rheolau ar gyfer ein trigolion yma, ac mae pobol o Gaerdydd eisiau dod yma - maen nhw dal yn byw yng Nghaerdydd.
“Maen nhw eisiau symud yma a byw yma a gweithio o adref ac mae hynny’n cael sathru ar yr holl reolau ydan ni wedi eu creu, ac mae hynny’n anghywir.
“Fe ddylen ni fod yn cefnogi ein trigolion ni yma nid pobol sy’n byw cannoedd o filltiroedd i ffwrdd yng Nghaerdydd.”
‘Cynnig cyfle’
Dywedodd cyfreithiwr y cyngor Alex Strickland wrth gynghorwyr fod rhaid iddyn nhw farnu y cais ar sail teilyngdod ac nid ar sail hunaniaeth yr ymgeiswyr.
Ond dywedodd y Cynghorydd Lloyd: “Dydw i ddim yn bod yn emosiynol - maen nhw o’r ardal ac wedi symud i ffwrdd i weithio, ac maen nhw’n ceisio dod yn ôl a magu teulu yma.
“Rydan ni eisiau agor y drws i bobol sydd eisiau aros, nid bod yn hiliol.
“Rydan ni’n trio cynnig cyfle i bobol sydd eisiau siarad eu hiaith eu hunain a bod yn eu diwylliant eu hunain gyda phobol yn eu hardal eu hunain.”
Pleidleisiodd cynghorwyr o blaid gyda’r Cynghorydd David Carr yn unig yn pleidleisio yn erbyn.