Cyhuddo trydydd person o lofruddio dyn mewn clwb nos yn Birmingham
13/01/2023
Mae trydydd dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn mewn clwb nos yn Birmingham.
Bu farw Cody Fisher ar ôl iddo gael ei drywanu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 ar Ŵyl San Steffan.
Fe wnaeth Reegan Anderson, 18, ymddangos o flaen Llys Ynadon Birmingham ddydd Gwener ar ôl cael ei arestio gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Bydd yn parhau yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Birmingham ddydd Llun.
Mae Kami Carpenter, 21, a Remy Gordon, 22, eisoes wedi eu cyhuddo o lofruddio Mr Fisher, tra bod un arall wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Byddant yn sefyll eu prawf ym mis Gorffennaf.