Newyddion S4C

AS Ceidwadol yn colli'r chwip am gymharu brechlynnau Covid-19 gyda'r Holocost

11/01/2023
Andrew Bridgen

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi'i wahardd o'r blaid am gymharu ymgyrch brechu Covid-19 y llywodraeth gyda'r Holocost. 

Fe wnaeth Andrew Bridgen, sydd yn cynrychioli Gogledd Orllewin Sir Gaerlŷr, rannu erthygl ar gyfryngau cymdeithasol yn cwestiynu diogelwch y brechlynnau. 

Fel rhan o'r neges, dywedodd: "Fel mae un cardiolegwr wedi dweud wrthai, dyma'r trosedd fwyaf yn erbyn dynoliaeth ers yr Holocost." 

Mae Mr Bridgen bellach wedi colli'r chwip gan y Blaid Geidwadol, gan olygu y bydd yn eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin fel AS annibynnol. 

Wrth dynnu'r chwip o Mr Bridgen, dywedodd prif chwip y Ceidwadwyr, Simon Hart, fod y sylwadau wedi "croesi llinell."

Fe wnaeth y Prif Weinidog, Rishi Sunak, hefyd gondemnio'r sylwadau gan ddweud eu bod yn "hollol annerbyniol." 

Fe gafodd Mr Bridgen hefyd ei wahardd o Dy'r Cyffredin ar ddechrau'r wythnos am ddangos "agwedd diofal" wrth dorri nifer o reolau lobio. 

Nid yw Mr Bridgen wedi ymateb i'w waharddiad. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.