'Siom' wrth i Wizz Air roi'r gorau i hedfan o faes awyr Caerdydd

10/01/2023
Wizz Air

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn "siomedig" fod cwmni Whizz Air wedi penderfynu rhoi'r gorau i hedfan allan o faes awyr Caerdydd. 

Fe wnaeth y cwmni awyrennau gyhoeddi ddydd Mawrth y bydd ei wasanaethau o'r maes awyr yn dod i ben ar 25 Ionawr. 

Roedd y cwmni eisoes wedi gohirio nifer o hediadau o fis Medi'r llynedd oherwydd costau cynyddol. Ar y pryd dywedodd y cwmni mai'r bwriad oedd ail-ddechrau gwasanaethau ar gyfer y gwanwyn. 

Ond bellach mae Wizz Air wedi cyhoeddi y bydd eu canolfan ym maes awyr Caerdydd, sydd yn cyflogi 40 o staff, yn cau erbyn diwedd y mis.

Mae'r newyddion yn ergyd i'r maes awyr sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru - gan i'r ganolfan agor yn 2020. 

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn amlwg yn siomedig bod Wizz Air wedi penderfynu tynnu'n ôl o faes awyr Caerdydd. 

"Mae ein cynllun adfer Covid yn parhau mewn lle, ond mae'r hinsawdd economaidd presennol yn amlwg yn heriol iawn i'r diwydiant awyrennau.

"Mae meysydd awyr bach yn hanfodol i economïau rhanbarthol ar draws y DU ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i gynnig cymorth i sicrhau eu dyfodol."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymraeg y mai perchnogaeth y maes awyr sydd yn achosi'r problemau. 

"Mae'n siom enfawr bod cwmni awyrennau arall wedi rhoi'r gorau i weithredu o faes awyr Caerdydd, yn enwedig oherwydd y golled o swyddi sydd yn dod gyda'r penderfyniad," meddai Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymraeg dros drafnidiaeth, Natasha Ashgar.

"Dwi wir eisiau gweld y maes awyr yn ffynnu o dan berchnogaeth breifat, ond yn lle hyn mae'n parhau yn nwylo Llywodraeth Llafur sydd yn arwain at ei ddirywiad terfynol.

"Mae hyn yn amlwg wrth edrych ar y nifer o deithwyr yng Nghaerdydd sydd wedi gostwng 44% i gymharu â niferoedd cyn y pandemig." 

Mae Wizz Air wedi ymddiheuro i gwsmeriaid yng Nghymru yn dilyn y penderfyniad, gan gynnig ad-daliad neu hediad o faes awyr gwahanol i unrhyw un sydd wedi archebu gwasanaeth sydd bellach wedi'u canslo. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.