Cymdeithas athronyddol America yn dathlu pen-blwydd Richard Price yn 300 oed
Bydd cymdeithas athronyddol yn Unol Daleithiau America yn cynnal digwyddiad i ddathlu cyfraniad Richard Price ar ei ben-blwydd yn 300 oed.
Disgrifiwyd yr athronydd radical a fu’n byw yn yr 18fed ganrif fel “y meddyliwr mwyaf gwreiddiol a fagodd Cymru erioed" gan yr hanesydd John Davies.
Ddydd Iau Ionawr 12fed fe fydd Cymdeithas Athronyddol America yn croesawu’r Athro Iwan Morus o Brifysgol Aberystwyth ar gyfer darlith gyhoeddus i nodi'r achlysur.
Dyma fydd digwyddiad rhyngwladol cyntaf gan Gymdeithas Athronyddol America ers cyn Covid.
Roedd Richard Price yn aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ogystal â Chymdeithas Athronyddol America.
Dywedodd yr Athro Robert M. Hauser ar ran Cymdeithas Athronyddol America fod pen-blwydd Richard Price yn Ionawr 1723 hefyd yn cyd-fynd â dathliad pen-blwydd sylfaenydd y gymdeithas, Benjamin Franklin ym mis Ionawr 1706.
“Er nad yw’n arbennig o hysbys heddiw, roedd Price yn bolymath ac yn ffrind agos i Franklin ac yn gyfrannwr mawr i wyddoniaeth ac at lwyddiant y Chwyldro Americanaidd,” meddai.
‘Gwerthoedd’
Roedd Price hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â chyflwr y trefedigaethau Americanaidd a darllenwyd ei bamffledi o blaid yr achos Americanaidd yn eang ar ddwy ochr yr Iwerydd.
Roedd rhai yn Lloegr yn ystyried barn Price ar y Chwyldro Americanaidd yn fradwrus.
Dywedodd Franklin unwaith am ddylanwad ei ffrind agos Price fod yn rhaid i’w “enw fyw cyhyd ag y bo unrhyw wybodaeth am athroniaeth ymhlith dynolryw.”
Dywedodd Dr. Huw Williams, Darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o drefnwyr y digwyddiad, ei fod yn “gyffrous”.
“Mae ei gyfraniadau ym meysydd gwleidyddiaeth, athroniaeth a gwyddoniaeth wedi’u tan werthfawrogi ers tro, ac o ystyried ei gysylltiadau agos â Franklin ac Americanwyr eraill, rydym wrth ein bodd y bydd Cymdeithas Athronyddol America yn dechrau ar weithgareddau’r flwyddyn,” meddai.
“Bydd y rhain yn cynnwys digwyddiadau yn ei bentref genedigol, Llangeinwyr, Senedd Cymru a Phrifysgol Caerdydd, yn ogystal â gweithgareddau addysgol a drama yn adlewyrchu ar fywyd ac oes Price a’i berthnasedd cyfoes.
“Yn fwy nag erioed, mae’n ymddangos, mae ei werthoedd a gwaith ei fywyd sydd yn siarad â ni ar draws y canrifoedd.”
Llun: Darlun o Richard Price ym meddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru