Rhif ffôn i apwyntiadau Ysbyty Gwynedd yn ymddangos fel 'sbam' i rai
Mae rhif ffôn ar gyfer apwyntiadau yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn ymddangos fel rhif 'sbam' ar rai ffonau symudol.
Mae rhai rhwydweithiau yn ymddangos gydag ebychnod coch a neges yn dweud fod angen cael gwared o'r rhif.
Ond mae'r rhif yn un swyddogol, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer trefnu apwyntiadau.
Mae hyn yn codi pryderon y gall rhai cleifion fethu eu hapwyntiadau neu eu triniaethau yn yr ysbyty os nad ydynt yn ateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Gwynedd: "Os oes gan bobl unrhyw bryderon neu yn ansicr fod y rhif yn gywir, gallant gysylltu â thîm cymorth cyswllt a chyngor cleifion yr ysbyty."
Mewn neges ar eu gwefan, dywedodd yr ysbyty ei bod yn gweithio i leihau amseroedd aros ar gyfer cleifion allanol gyda'r darparwr preifat SHS Partners.
Mae cleifion sydd wedi bod yn aros hyd at dair blynedd ar gyfer eu hapwyntiad cyntaf o fewn adrannau orthopaedig a llawdriniaethau cyffredinol yn cael cynnig apwyntiad ar sail blaenoriaeth glinigol a'u hamseroedd aros.