Ail dai: Perchnogion yn wynebu dyblu'r dreth yn Sir Gâr
Mae perchnogion ail dai ac eiddo gwag hirdymor yn Sir Gaerfyrddin yn wynebu talu rhagor o dreth cyngor wrth i gynigion newydd gael eu trafod gan aelodau'r cabinet.
Bydd y Cabinet yn ystyried codi treth cyngor ychwanegol o 50% ar berchnogion ail gartrefi am flwyddyn, yna 100% wedi hynny. Byddai codi 100% yn golygu dyblu’r dreth.
Mae perchnogion eiddo sydd wedi bod yn wag ers blwyddyn neu ddwy yn wynebu talu 50% yn ychwanegol, gan gynyddu wedyn i 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers dwy i bum mlynedd.
Byddai cynnydd pellach i 200% ar gyfer eiddo sy'n wag am bum mlynedd neu fwy.
Bydd cabinet y cyngor yn ystyried y cynnig ar 9 Ionawr.
Mae tua 1,310 o dai wedi bod yn wag ers mwy na blwyddyn yn y sir, gydag ychydig dros 1,000 arall yn wag am lai na hynny, meddai adroddiad gan y cyngor.
Mae tua 1,060 o ail gartrefi yn y sir.
Meddai’r adroddiad “nad oes tystiolaeth ddigamsyniol sy’n mesur faint o effaith mae ail gartrefi yn ei gael ar brisiau tai o’i gymharu â ffactorau eraill”.
“Effaith uniongyrchol fwyaf amlwg ail gartrefi yw lleihau’r stoc tai. Roedd hyn yn haws i’w fesur, gyda rhai ardaloedd wedi colli canrannau sylweddol o’u stoc tai i ail gartrefi o ryw fath.”