
Mark Drakeford yn penodi Gweinidog Iechyd newydd
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi penodi ei dîm o weinidogion a dirprwy weinidogion ddydd Iau.
Daw’r ail-strwythuro o’r cabinet wythnos union wedi i’r blaid Lafur ennill 30 o 60 seddi’r Senedd yn yr Etholiad.
Mae Vaughan Gething bellach yn Weinidog yr Economi wedi pum mlynedd yn arwain yr adran Iechyd.
Eluned Morgan fydd yn cymryd lle Mr Gething fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyfnod fel Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.
Fe fydd Jeremy Miles yn cymryd yr awenau fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, gyda’r dyletswyddau dros addysg yn dychwelyd i’r blaid Lafur wedi i’r Aelod o’r Senedd o’r Democratiaid Rhyddfrydol gamu o’r neilltu cyn yr etholiad.
Wrth gyhoeddi ei gabinet ar ei newydd wedd, fe ddywedodd Mark Drakeford: “Mae’r Cabinet newydd yn barod i ddechrau arni i arwain Cymru ar y daith tuag at adferiad wedi’r pandemig hir hwn, sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd.

“Bydd heriau o’n blaenau – mae’r pandemig yn argyfwng iechyd y cyhoedd ac yn argyfwng economaidd a fydd yn effeithio ar ein bywydau ymhell i’r dyfodol – ond mae’r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru”, ychwanegodd.
“Byddwn ni’n rhoi pob gewyn ar waith i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na’i adael ar ôl.”
Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cyhoeddi Gweinidog Newid Hinsawdd gyda Julie James yn arwain ar yr adran newydd, a Lee Waters yn ddirprwy iddi.
Mae swyddi newydd hefyd i Mick Antoniw sy’n ymuno â’r cabinet fel Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a Jane Hutt sy’n derbyn dyrchafiad i rôl y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Bydd Rebecca Evans yn parhau â’u dyletswyddau fel Gweinidog Cyllid a’n hychwanegu cyfrifoldebau dros Lywodraeth Leol, gydag etholiadau ar y gorwel y flwyddyn nesaf.
Bydd Lesley Griffiths yn parhau’n Weinidog Materion Gwledig ond hefyd yn derbyn cyfrifoldeb gweinidogol dros Ogledd Cymru ac yn dechrau yn rôl y Trefnydd, a fydd â chyfrifoldeb dros fusnes y llywodraeth.
Ni fydd Ken Skates yn gwasanaethu yn y cabinet newydd.
Roedd wedi bod yn Weinidog ar yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ers 2016.
Talodd Mark Drakeford deyrnged i Mr Skates drwy ddweud: “Mae Ken wedi bod yn gaffaeliad mawr yn y Cabinet ac wedi darparu llais ar gyfer y Gogledd.
"Bydd e’n parhau i godi llais dros y Gogledd a Llafur Cymru ond mewn rôl wahanol. Byddwn ni’n gweld eisiau ei egni a’i angerdd”.