Posibilrwydd y gall undeb nyrsys gytuno i godiad cyflog o 10%
Mae posibilrwydd y gall Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) dderbyn codiad cyflog o tua 10% er mwyn dod a’r anghydfod dros dâl gyda Llywodraeth y DU i ben.
Fe ofynnodd yr RCN am godiad cyflog o 19%, sydd 5% yn fwy na chyfradd chwyddiant, ond nid oedd y llywodraeth yn fodlon sicrhau hynny.
Ond wrth siarad â Times Radio, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol a Phrif Weithredwr yr RCN, Pat Cullen y byddai hi'n fodlon "cwrdd â'r llywodraeth hanner ffordd."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes modd iddynt godi cyflogau nyrsys yng Nghymru heb iddynt dderbyn mwy o gyllid gan Lywodraeth y DU.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr: "Heb fuddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth y DU, ni allwn wneud cynnig o gyflog uwch heb gynyddu'r risg o ostyngiad mewn gwasanaethau."