Dŵr o ffynnon hynafol yn cynhesu Ysgol Ffynnon Taf
Mae Ysgol Ffynnon Taf ar gyrion Caerdydd bellach yn cael ei chynhesu gan ffynnon hynafol gyfagos.
Mae’r gymuned yn gartref i unig ffynnon dwym Cymru sy’n cynhyrchu dŵr sy’n 21°C.
Mae’r dŵr o’r ffynnon bellach yn cael ei bwmpio drwy’r ysgol er mwyn cadw’r disgyblion a’r athrawon yn gynnes.
Dywedodd cwmni Kier Construction a osododd y system gwresogi newydd ei fod wedi disodli system gwresogi nwy ac y gallai arbed 33 tunnell o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn.
“Mae’n wych gweld y disgyblion yn mwynhau eu cartref newydd ac yn elwa o’r union ffynnon a roddodd Ffynnon Taf ar y map,” meddai Jason Taylor, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction.
‘Amcanion’
Daeth Ffynnon Taf yn gyrchfan poblogaidd yn yr 19eg ganrif o ganlyniad i'r gred fod y ffynnon hynafol yn iachau anhwylderau.
Mae'n debyg mai'r ffynnon hon a roddodd ei henw i'r ardal ond does dim cofnod o’r enw nes dechrau’r 19eg ganrif.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fod yr ysgol bellach yn gwbl unigryw.
“Mae buddsoddiad y Cyngor, a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan Kier, wedi disodli adeilad dros dro’r ysgol gyda chyfleusterau newydd sbon, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau bob dydd disgyblion,” meddai'r llefarydd.
“Mae hwn yn brosiect arloesol na ellir ei ailadrodd yn unman arall yng Nghymru a bydd yn helpu i gyflawni ein hamcanion ac ymrwymiadau ehangach o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd.”
Llun: Ysgol Ffynnon Taf gan Kier Construction