Amheuaeth a fydd Louis Rees-Zammit yn chwarae yn y Chwe Gwlad
Mae amheuaeth a fydd Louis Rees-Zammit yn holliach i chwarae dros Gymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo ddioddef anaf i'w bigwrn.
Cafodd yr asgellwr 21 oed ei anafu yn ystod buddugoliaeth Caerloyw dros Gaerlŷr yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig noswyl Nadolig.
Roedd gobaith y byddai'n iawn, ond mae sganiau wedi datgelu na fydd yn chwarae am weddill mis Ionawr.
Cadarnhawyd eisoes na fydd Rees-Zammit yn chwarae dros ei glwb cyn i'r Bencampwriaeth gychwyn ar 4 Chwefror, ond mae bellach yn amheuaeth a fydd yn chwarae dros Gymru o gwbl.
Dywedodd hyfforddwr Caerloyw George Skivington bod yr asgellwr yn cerdded yn iawn, ond na fydd yn dychwelyd i chwarae "nes cyfnod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad".
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland eisoes yn wynebu rhestr hirfaith o anafiadau, gyda'i ail reng Will Rowlands, Gareth Anscombe a Dan Lydiate hefyd wedi'u hanafu.
'Asesiad'
Mae yna amheuaeth a fydd capten Iwerddon, Johnny Sexton yn holliach i wynebu Cymru yn y Bencampwriaeth.
Dioddefodd anaf i asgwrn ei foch yn ystod buddugoliaeth Leinster dros Connacht yn yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddydd Sadwrn.
Cadarnhawyd eisoes na fydd Johnny Sexton yn cael ei gynnwys yn y gêm yn erbyn y Gweilch penwythnos nesaf.
“Mae Sexton wedi dioddef anaf i asgwrn ei foch yn ystod y gem yn erbyn Connacht ac fe fydd yn cael asesiad yn hwyrach ymlaen heddiw,” meddai llefarydd ar ran Leinster.
Iwerddon sydd ar frig rhestr timau rygbi rhyngwladol gorau’r byd ar hyn o bryd tra bod Cymru yn y 9fed safle.
Methodd Sexton, sydd â 109 o gapiau, dwy o gemau Iwerddon yn yr hydref gydag anaf.