
'Den ni angen help bobol leol': Teulu'n apelio'n daer am wybodaeth wedi diflaniad Aled Glynne Davies
'Den ni angen help bobol leol': Teulu'n apelio'n daer am wybodaeth wedi diflaniad Aled Glynne Davies
Mae mab un o gyn-olygyddion BBC Radio Cymru wedi apelio'n daer am gymorth i ddod o hyd iddo.
Cafodd Aled Glynne Davies, sy'n 65 oed, ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna yng Nghaerdydd am tua 23:30 nos Galan.
Roedd yn gwisgo cot werdd dywyll a het werdd dywyll.
Mae Gruffudd Glyn wedi apelio'n daer ar ei dad i ddod adref.
"Y neges i Dad ydy, da ni'n dy garu di gymaint, a den ni'n ysu arna ti i plis ddod adre."
Mae cannoedd o bobl yng Nghaerdydd wedi bod yn chwilio amdano ddydd Llun, gan barhau i wneud hynny ddydd Mawrth.

Mae Gruffudd Glyn yn apelio ar bobl sy'n byw yn ardal Pontcanna a'r cyffiniau i edrych yn eu gerddi, eu ceir a'u hadeiladau tu allan.
"Ar hyn o bryd, sgynnon ni ddim cliwiau, a dyna pam 'den ni angen, unai rhywun i'w weld o yn gorfforol, neu y cameras yma.
"Mae 'na lwythi o CCTVs yng Nghaerdydd, mae 'na lwythi o dashcams ar geir, mae na lwythi o gamerâu ar glychau drws.
"Felly ma' 'na footage o dad i gael, 'den ni jest angen help bobol leol"
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei deulu fod Mr Davies wedi gadael tŷ bwyta Uisce ym Mhontcanna am 22:36 gyda ei wraig, cyn cerdded yn ôl i'w tŷ yn yr un ardal.
Ar ôl cyrraedd adref, fe aeth am dro ar ei ben ei hun a does neb wedi ei weld ers hynny.
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth am Aled Glynne Davies.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Michelle Conquer bod plismyn yn chwilio mewn parciau, coediwgoedd ac ardaloedd ger afonydd, a'u bod yn parhau i fod mewn cyswlllt agos â'i deulu.
"Ry'n ni wedi bwrw golwg fanwl ar ddeunydd CCTV gan yr awdurdod lleol, busnesau ac o gartrefi yn yr ardal," meddai.
"Ry'n ni'n pryderu am les Aled ac yn apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni ar frys"
Mae modd gwneud hynny drwy ddefnyddio'r cyfeirnod 2300000314.