Achos trywanu Birmingham: Cadw dau yn y ddalfa wedi gwrandawiad llys
Mae dau ddyn sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio pêl-droediwr lled broffesiynol mewn clwb nos yn Birmingham ar Ŵyl San Steffan wedi eu cadw yn y ddalfa yn dilyn gwrandawiad llys.
Ymddangosodd Kami Carpenter, 21, a Remy Gordon, 22, gerbron ynadon yn y ddinas.
Mae'r ddau sy'n dod o Birmingham, wedi eu cyhuddo o lofruddio Cody Fisher, a chyhuddiad arall o ymladd.
Cafodd Mr Fisher a oedd yn 23 oed ei drywanu ar lawr dawnsio clwb nos Crane, yn ardal Digbeth.
Mewn gwrandawiad a barodd bedair munud, siaradodd y diffynyddion i gadarnhau eu manylion personol a phledio’n ddieuog i'r cyhuddiad o ymladd.
Ni ddaeth cais i gyflwyno ple i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
Bydd y ddau yn ymddangos gerbron barnwr Llys y Goron ddydd Mercher, 4 Ionawr. Cafodd gwrandawiad arall ei drefnu ar gyfer 30 Ionawr.