Tri o bobl wedi marw ar ôl tân mewn gwesty yn yr Alban
02/01/2023
Mae tri o bobl wedi marw ar ôl i dân gynnau mewn gwesty yn Perth, yr Alban.
Cafodd y gwasanaethau brys gan gynnwys 21 o griwiau ambiwlans a naw injan dân eu galw i Westy'r New County tua 05:10 fore Llun.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub yr Alban fod tri o bobl wedi marw, yn ogystal â chi.
Cafodd y tân ei ddiffodd tua 06:30.
Disgrifiodd Dirprwy Brif Weinidog Yr Alban, John Swinney y marwolaethau fel “newyddion torcalonnus”.
"Mae fy nghydymdeimlad â phawb sydd wedi’u heffeithio gan y drasiedi hon.”