Awstralia ymhlith y gwledydd cyntaf i groesawu 2023

Awstralia ymhlith y gwledydd cyntaf i groesawu 2023
Mae Awstralia ymhlith y gwledydd cyntaf i groesawu 2023.
Roedd tân gwyllt i'w weld mewn dinasoedd ledled y wlad, gan gynnwys Sydney.
Mae disgwyl mwy o ddathliadau o'r fath rwy gydol y dydd wrth i wahanol rannau o'r byd weld y Flwyddyn Newydd yn cyrraedd.
Ynysoedd Baker a Holand, ger Unol Daleithiau America, fydd y llefydd olaf i weld y flwyddyn newydd am 12:00 GMT ar 1 Ionawr.
I nifer o wledydd, gan gynnwys yng Nghymru, dyma fydd y Nos Galan gyntaf lle bydd dathliadau'n cael eu cynnal heb unrhyw gyfyngiadau ers cyn pandemig Covid-19.