'Dyfodol ansicr' i fenter gymunedol yn Ffestiniog

Newyddion S4C 29/12/2022

'Dyfodol ansicr' i fenter gymunedol yn Ffestiniog

Mae Y Dref Werdd, menter gymdeithasol ym Mro Ffestiniog yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd diffyg cyllid parhaol.

Mae’r fenter wedi bod yn gyfrifol am gefnogi miloedd o drigolion gyda materion ariannol ac iechyd meddwl.

Yn 2019 fe gafodd y fenter grant loteri am bedair blynedd ond wrth i'r arian hwnnw ddod i ben, mae'r staff yn galw am ragor o gymorth i helpu ariannu'r prosiect yn y dyfodol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd maent wedi gwneud bob dim y maen nhw'n gallu i gefnogi sefydliadau trydydd sector fel Y Dref Werdd.

Dros y blynyddoedd mae’r Dref Werdd wedi gweld “cynnydd enfawr yn nifer y trigolion sy’n dod atyn nhw yn gofyn am gymorth a chyngor i dalu biliau.

'Catastroffig i Blaenau'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Rhian Williams, Gweithiwr Llesiant y Dref Werdd: “ 'Dan ni'n helpu pobl i wneud yn siŵr bod nhw'n cael bob budd-dal maen nhw fod i gael, bob cymorth maen nhw fod i gael.

"Mae 'di mynd yn gyfnod anodd ar bawb rŵan, nid dim ond y bobl sydd ar y budd-daliadau. Mae hyd yn oed pobl sydd yn gweithio yn gweld hi'n anodd rŵan efo costau byw 'di mynd i fyny, costau ynni, bob dim."

Ychwanegodd Gwydion ap Wynn, rheolwr y prosiect, y byddai cau'r Dref Werdd yn “gatastroffig i Blaenau ac i'r holl bobl 'da ni'n cefnogi."

Un sydd wedi cael cefnogaeth gan y fenter yw Norma Williams.

“Ddaru fi gael mastectomi rhyw dair blynedd a hanner yn ôl ac o'ddan nhw 'di stopio 'mhres i a bob dim," meddai.

"Ddois i at Gwydion i fan hyn a ddaru fo helpu fi yn bob ffordd 'sa fo'n gallu a ddoth o drwadd yn iawn i mi.

"Maen nhw 'di bod yn hynod o dda efo fi a phawb arall yn Blaenau - mae pawb yn dod o bob man yma."

Un arall sy’n gwerthfawrogi gwaith y Dref Wedd ydy Diana Whitley: “Maen nhw 'di gwneud i mi deimlo 'mod i'n werth rhywbeth a maen nhw 'di helpu fi micsio efo bobl yn y dre'," meddai.

Image
S4C
Diana Whitley

"'Dwi 'di bod yn dod yma i ddysgu sut i ddefnyddio'r peiriannau argraffu 'ma a dwi'n volunteer rŵan i helpu pobl eraill."

Heb Y Dref Werdd mae hi'n dweud y bydda' hi "adre' ar fy mhen fy hun yn y tŷ o hyd".

Ychwanegodd: " 'Dan ni'n mynd am dro i'r coed i helpu efo'r mental health, gwneud ioga ac art yn y coed - pob math o bethau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod, fel partneriaid prosiect, yn "cydnabod yr holl waith da" mae'r Dref Werdd yn ei wneud ym Mro Ffestiniog.

"Rydym yn ymwybodol bod yna ansicrwydd ynghylch y dyfodol ar hyn o bryd, ond rydym mewn cysylltiad gyda'r Dref Werdd ac yn bwriadu trefnu cyfarfod gyda'n Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau yn fuan er mwyn adnabod pa gefnogaeth a chyfleodd sydd ar gael," meddai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r argyfwng costau byw wedi cael "effaith sylweddol ar sectorau ar draws y gymdeithas" ac mae'r trydydd sector yn gweld "cynnydd enfawr o ran costau gwres, cludiant, bwyd ac offer arall ar yr un pryd â galwadau cynyddol am eu cymorth".

"Dyna pam ein bod yn parhau i fuddsoddi yn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy'n cynnwys 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), am eu bod yn gallu darparu amrywiaeth o gymorth i sefydliadau llawr gwlad - gan gynnwys help o ran dod o hyd i ffynonellau cyllid priodol," meddai llefarydd.

"Mae ein Cynllun Trydydd Sector yn ein galluogi i adlewyrchu pwysau chwyddiant pan fo sefydliad yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.