Arestio trydydd person wedi i ddynes gael ei saethu'n farw ar Noswyl Nadolig
Mae’r heddlu wedi arestio trydydd person mewn cysylltiad â marwolaeth dynes a gafodd ei saethu ar Noswyl Nadolig.
Bu farw Elle Edwards, 26, ar ôl cael ei saethu yn ei phen mewn tafarn ar 24 Rhagfyr.
Cafodd swyddogion eu galw i'r Lighthouse Inn ym Mhentref Wallasey toc wedi 23:50 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod gwn wedi ei danio.
Fe wnaeth dyn 28 oed hefyd ddioddef anafiadau difrifol a chafodd tri o bobl eraill hefyd eu hanafu.
Mae dyn 30 oed eisoes wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio. Mae dynes 19 oed hefyd wedi'i harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Bellach, mae Heddlu Glannau Mersi wedi arestio trydydd person, dyn 31 oed o Tranmere, sydd wedi'i arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Mae teulu Elle Edwards yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol a'r gred yw nad hi oedd targed yr ymosodiad.