Amrywiol lwyfannau yn 'hollbwysig i'r sîn gerddoriaeth gymreig'

Amrywiol lwyfannau yn 'hollbwysig i'r sîn gerddoriaeth gymreig'
Mae'n bwysig cael amrywiaeth o blatfformau i ddathlu cerddoriaeth gymreig, yn ôl sylfaenydd y wefan gerddoriaeth annibynnol Klust, Owain Williams.
Mae Klust yn wefan a chylchgrawn sydd yn “hyrwyddo, cefnogi a dathlu cerddoriaeth gymreig” yn ddwyieithog trwy ddarparu erthyglau gan arbenigwyr a selogion.
Cafodd y wefan ei sefydlu ym mis Ionawr 2022 gyda chylchgrawn o’r un enw bellach wedi ei gyhoeddi fis Rhagfyr.
Wrth siarad ag ITV Cymru am bwysigrwydd cael amrywiaeth o blatfformau i roi llais i gerddoriaeth Gymreig, dywedodd Owain Williams: “Dim ond hyn a hyn o sylw mi ellith un llwyfan ei roi ar gyfer un math o gerddoriaeth.
“Dw i’n meddwl bod y sîn yma yng Nghymru a bob dim o gwmpas y sîn hefyd, nid jest y miwsig ei hun, yn symud yn eu blaenau a bod yna lot o brosiectau gwahanol a chyffrous yn mynd ymlaen.
“Y mwya’ o leisiau gwahanol a mwya o gwefannau fel yma sydd ar gael, dwi’n meddwl gorau’n y byd ellith hynna fod.”