Newyddion S4C

Ailbenodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru wedi'r etholiad

Newyddion S4C 12/05/2021

Ailbenodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog Cymru wedi'r etholiad

Mae Mark Drakeford AS wedi ei ailbenodi yn Brif Weinidog Cymru wedi'r etholiad. 

Cafodd ei benodi yn dilyn cynnig yng Nghyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd ddydd Mercher. 

Mae Elin Jones AS wedi ei hethol yn Llywydd y Senedd unwaith eto, gydag David Rees AS yn cael ei benodi fel is-Lywydd. 

Daw'r cyfarfod cyntaf wedi i'r Blaid Lafur ennill 30 o 60 seddi'r Senedd yn yr etholiad ddydd Iau, 6 Mai.

Y Ceidwadwyr yw'r ail blaid fwyaf gyda 16 sedd, tra bo gan Blaid Cymru 13 ac mae un sedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.

Yn ystod ei araith yn sesiwn cyntaf y Senedd newydd, y pandemig a'r adferiad oedd yn mynd a sylw Mark Drakeford. 

"Rydym dal i fod mewn pandemig sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau," meddai. 

"Bydd y llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fynd i'r afael â Coronafeirws yn y ffordd ofalus rydym wedi ei wneud hyd yma, trwy ddilyn y wyddoniaeth a diogelu y pobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. 

"Ni fydd neb yn cael eu dal yn nôl ac ni fydd neb yn cael eu gadael ar ôl."

Image
Elin Jones, y Llywydd

Yn dilyn pleidlais, cafodd yr aelod Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones AS ei hethol eto i fod yn Lywydd. 

Cafodd aelod y Blaid Lafur dros Aberafan, David Rees AS, ei ethol yn is-Lywydd. 

Ann Jones o'r Blaid Lafur oedd yn Ddirprwy Lywydd cyn yr etholiad, ond fe gadarnhaodd Ms Jones yn gynharach eleni nad oedd am sefyll fel ymgeisydd yn etholaeth Dyffryn Clwyd y tro hwn.

Fe gollodd y Blaid Lafur etholaeth Dyffryn Clwyd i'r Ceidwadwyr - yr unig golled i'r blaid fwyaf yn y Senedd.

Oherwydd y rheoliadau Coronafeirws sy'n parhau i fod ar waith yng Nghymru, dim ond 20 Aelod o'r Senedd sydd yn gallu bod yn y siambr ar yr un pryd.

Roedd y 40 aelod arall yn ymuno â'r cyfarfod dros Zoom, o'u swyddfeydd yn adeilad Tŷ Hywel, Bae Caerdydd.

Roedd y bleidlais ar gyfer swyddi'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn cael eu cynnal ar bapur yn adeilad y Senedd, gyda phawb yn ymbellhau'n gymdeithasol rhag ei gilydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.