Parafeddyg o Gymru'n cludo cymorth dyngarol i Wcráin
Mae Cymro wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw ymysg nifer o staff ambiwlans o'r DU sydd wedi bod yn danfon offer meddygol, cerbydau a chymorth i'r Wcráin.
Mae David ‘Dai’ Morris, uwch-ymarferydd parafeddygol gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, wedi gyrru ar sawl achlysur hyd at 2,000 o filltiroedd o’i gartref yn Ne Cymru i’r Wcráin.
Mae wedi llwyddo i gludo, gyda chymorth eraill, hyd at 40 o gerbydau brys wedi'u datgomisiynu, wedi'u llenwi â chymorth meddygol, gan gynnwys offer gofal dwys, offer trawma parafeddygol, generaduron, offer mamolaeth a phediatrig ynghyd â darpariaethau cymorth cyntaf.
“Gan fy mod yn gyn-filwr, fe wnaeth y golygfeydd o ffoaduriaid ysgogi rhywbeth y tu mewn i mi a barodd i mi fod eisiau gwneud beth bynnag a allwn i helpu,” meddai.
“O ganlyniad, rydw i wedi teithio ar fy mhen fy hun yn ogystal â gydag eraill a sawl elusen i fynd ag ambiwlansys yn ogystal ag offer meddygol a chymorth o'r DU i'r Wcráin.
“Roedd fy nhaith gyntaf yn agoriad llygad. Mae tystiolaeth o wrthdaro a dioddefaint ym mhobman.
“Gadawais gyda thri o bobl eraill a chymerais bedwar ambiwlans wedi'u dadgomisiynu, wedi'u llenwi â darpariaethau meddygol i Lviv.
“Gan ein bod wedi gyrru’r ambiwlansys yno, dechreuodd ein taith yn ôl ar droed, cyn i ni allu cael bws, yna trên a hedfan yn ôl.
“Fe fethais i fy nhrên gan fy mod wedi penderfynu y byddwn yn gwario fy arian oedd yn weddill ar 50 o brydau 'Big Mac' a 75 'Happy Meals' i’r merched a’r plant sy’n ffoaduriaid y gwnes i gyfarfod â nhw.”
O dde Cymru i'r Donbas
Ar ei ail daith, sicrhaodd Mr Morris ambiwlans brys wedi'i ddatgomisiynu gan wasanaeth ambiwlans preifat yng Nghaint, ynghyd â dau gerbyd ymateb cyflym wedi'u datgomisiynu, ar gyfer rhanbarth y Donbas.
“Ar y daith hon, tra roeddwn i’n gyrru’r ambiwlans, roedd y cerbydau ymateb cyflym yn cael eu criwio gan anesthetydd a’i gŵr a’r llall gan nyrs a bydwraig,” meddai
“Llenwyd pob cerbyd â darpariaethau meddygol a’u danfon i ysbyty plant.
“Ar y ffordd, fe wnaethon ni gwrdd â meddyg teulu o Ogledd Cymru a’i ffrind, yn gyrru lori fawr a oedd yn llawn nwyddau dyngarol i’r Wcráin.”
Ers y teithiau cyntaf, mae Mr Morris wedi gwneud llawer mwy, gan gynnwys taith ddiweddar gyda'i wraig Anne Morris sydd hefyd yn uwch-ymarferydd parafeddygol i'r ymddiriedolaeth.
Mae ganddynt ddau o blant ac un ŵyr, ac mae ganddynt hefyd gyfanswm o 60 mlynedd o wasanaeth o fewn y GIG.
Dywedodd Mrs Morris: “Treuliais fy ngwyliau blynyddol yn paratoi ar gyfer y siwrnai, yn casglu’r cerbyd ymateb cyflym wedi’i ddatgomisiynu a oedd yn cael ei ddefnyddio’n flaenorol yn Sir y Fflint.
“Yna treuliais amser yn casglu cyflenwadau meddygol, cefais hyd yn oed rai eitemau wedi’u postio ataf gan aelodau’r cyhoedd a oedd am helpu gwasanaethau meddygol yr Wcráin.
“O ganlyniad i oedi traffig, fe gymerodd ychydig dros 48 awr i mi ddanfon y cerbyd a’r cymorth.
“Ond roeddwn i’n hapus iawn i’w gweld yn cael eu casglu ac i weld fy ngŵr.
“Cafodd Dai a minnau rai dyddiau yn hyfforddi pobl ar y cerbydau a dysgu cymorth cyntaf cyn mynd yn ôl i’r DU.”
Er eu bod yn ôl adref, mae'r ddau yn parhau i helpu pobl yr Wcrain, a chydag un ar bymtheg o ambiwlansys wedi'u colli yn ystod y gwrthdaro, maent yn parhau i godi arian.
Ychwanegodd Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae’r ffaith bod David ac Anne hefyd yn helpu i helpu pobl yr Wcrain yn eu hamser rhydd yn rhyfeddol.
“Fel cymaint o bobl ledled y byd, rwyf wedi gwylio gyda thristwch mawr am y gwrthdaro parhaus yn yr Wcrain ac mae’n braf gweld aelodau o Wasanaethau Ambiwlans Cymru yn mynd yr ail filltir i helpu.”