Cyhoeddi ymchwiliad annibynnol i ymateb Llywodraeth y DU i'r pandemig
Mae’r Prif Weinidog, Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i bandemig Covid-19.
Mae disgwyl i’r ymchwiliad edrych ar y ffordd y gwnaeth y llywodraeth ddelio gyda’r pandemig a pha wersi ddylid eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
Fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried ymatebion holl wledydd y DU, gyda Mr Johnson yn cadarnhau y bydd y broses yn cynnwys ymgynghori rhwng y llywodraethau datganoledig.
Mae disgwyl i’r ymchwiliad ddechrau yng ngwanwyn 2022.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn pwysau cynyddol ar Mr Johnson i gynnal ymchwiliad gan Syr Keir Starmer, arweinydd y blaid Lafur, a Dominic Cummings, cyn prif ymgynghorydd y Prif Weinidog.
Mae'n bosib i'r ymgynghoriad gymryd sawl blwyddyn ac nad oes yna sicrwydd i’r broses gael ei chyflawni cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2024.