Newyddion S4C

Galw am wella diogelwch ffyrdd Corwen yn dilyn damwain

Newyddion S4C 21/12/2022

Galw am wella diogelwch ffyrdd Corwen yn dilyn damwain

Mae yna alwadau i wella diogelwch ffyrdd yn nhref Corwen, Sir Ddinbych, ar ôl damwain ddifrifol yno ddechrau’r mis. 

Fe darodd nifer o geir i mewn i adeilad ger y sgwâr, oriau yn unig ar ôl i bobl a phlant fod yn canu carolau yno. 

Mae gwleidyddion lleol yn galw am osod camerâu cyflymder ac arwyddion mwy amlwg i geir a lorïau sy’n teithio trwy ganol y dref ar hyd priffordd yr A5. 

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y byddan nhw’n monitro’r sefyllfa. 

Ar nos Sadwrn 3 Rhagfyr fe darodd car i mewn i gerbyd arall ac arhosfan bws. 

Cafodd y cerbyd arall ei wthio cymaint nes iddo daro yn erbyn siop ger y sgwâr. 

'Traffig trwm'

Doedd dim anafiadau difrifol, ond ychydig oriau’n gynharach roedd y sgwâr yn llawn pobl a phlant yn canu carolau. 

Mae’r Cynghorydd Sir lleol, y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yn cefnogi galwad Cyngor Tref Corwen am gamerâu cyflymder.

“Mae pobl sy’n byw yng nghanol Corwen, mae rhywbeth fel ‘na yn tynnu sylw at y peth, ond maen nhw’n byw efo traffig trwm yn gyson," meddai.

“Den ni ar yr A5 yn fan hyn, sef un o briffyrdd y gogledd ac mae pobl yn gyrru, yn enwedig yn y nos, pan mae’n dawelach.

“Mae pobl yn dueddol o anwybyddu’r cyflymder o 30 milltir yr awr maen nhw fod i’w wneud trwy’r canol.

“Mi fyse 20 milltir yr awr yn ddelfrydol.  Strydoedd cul, ceir yn parcio ar ddwy ochr y lôn, pobl yn croesi’r stryd i’r siopau ac yn y blaen.

“Yn sicr mae isio stopio pobl rhag goryrru yma.

'Difrifol iawn'

Un arall sy’n cefnogi galwad y Cyngor Tref ydy’r aelod lleol o’r Senedd, Ken Skates AS: "Mae ‘na drafferthion wedi bod yng Nghorwen ers peth amser.  Ond yr hyn dwi’n ei weld yn ddiweddar ydy bod pobl wedi dod yn fwy pryderus y bydd digwyddiad difrifol.

“Mae pobl yn gofyn ‘Ai mater o “pryd”, nid “os”, ydy hyn?’ A dyna sy’n fy mhryderu i - ein bod ni’n gwybod y gallai rhywbeth difrifol iawn ddigwydd oni bai bod ‘na weithredu.

“Felly mae angen rheoli cyflymder a gwell mesurau diogelwch mor fuan â phosib.

“Mae’n iawn bod angen gweithredu nawr a dyna dwi’n gobeithio fydd yn digwydd yn y flwyddyn newydd.”

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, fe aeth tîm argyfwng i Gorwen ar noson 3 Rhagfyr yn dilyn y ddamwain.

“Fe wnaeth y tîm yr ardal yn ddiogel gan osod rhwystrau o amgylch yr arhosfan bws," meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Cafodd yr ardal ei glanhau ymhellach ar 9 Rhagfyr.

“Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn ceisio atgywiro’r ardal yn dilyn difrod.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Byddwn yn parhau i fonitro cofnodion yr heddlu o wrthdrawiadau ar y rhan hon o gefnffordd yr A5 a allai roi mesurau ychwanegol ar waith os oes angen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.