
Brwydro yn erbyn 'stigma' iechyd meddwl ar ôl colli ffrind
Brwydro yn erbyn 'stigma' iechyd meddwl ar ôl colli ffrind
Mae ffermwr o Sir Ddinbych a gollodd ei ffrind gorau yn sgil hunanladdiad, wedi dweud bod angen mynd i’r afael â’r “stigma” ynghylch trafod iechyd meddwl.
Mae Martin Sivill, sydd yn ffermio ym mhentref Tremeirchion, yn credu bod y stigma “wedi gwella” ond bod ffordd eto i fynd.
Cafodd ei ysbrydoli i helpu eraill i siarad yn agored am eu hiechyd meddwl yn sgil marwolaeth ei ffrind.
Fe laddodd Huw Parry o Dremeirchion ei hun yn 2013. Roedd yn 36 oed.
Yn ôl Martin, roedd y newyddion am ei ffrind gorau yn “sioc fawr” iddo ar y pryd.
“10 mlynedd yn ôl nesh i colli ffrind gore fi. A wedyn ar ôl ‘ny nesh i ddim syffro am bach. Ond o’n i isho helpu pobol ‘cos do’n i’m yn dallt bod o’n teimlo fel o’dd o’n teimlo a wedyn o’n i isho jyst helpu,” meddai.
“Os o’n i’n helpu un person byswn i’n teimlo lot gwell. Medru gweld y signs o rywun yn teimlo bach yn isel neu jyst ishe siarad neu jyst yn gofyn i rywun os ‘dyn nhw’n oce.”

‘Teimlo’n euog’
Yn ôl Martin, roedd hi’n anodd i ddod i delerau â’r hyn ddigwyddodd.
“O’dd o’n rili anodd yn y cychwyn ‘cos o’n i’n... a dim bai fi o’dd o... ond o’n i’n tendio rhoi bai ar fi’n hun am bo fi’n teimlo’n euog bo ni ddim ‘di gweld bod o’n teimlo mor isel â ddim ‘di gofyn iddo os o’dd o’n oce.”
“Wedyn ar ôl fi ddod dros gyd o hynny a cychwyn siarad yn y Royal Welsh yn gynta’, es i at y stand DPJ efo’r wraig a cychwyn siarad efo nhw. Wedyn o’n nhw’n gofyn o’n nhw wastad ishe help, ishe champion ma’ nhw’n galw fo i’r ardal. So nes i cynnig bod yn champion i ardal gogledd Cymru.”
Cafodd elusen Sefydliad DPJ ei sefydlu yn 2016 yn dilyn marwolaeth y contractwr amaethyddol Daniel Picton-Jones.
Penderfynodd ei weddw Emma i sefydlu’r elusen gan fod y diwydiant amaeth yn un o’r diwydiannau sydd â’r cyfraddau uchaf o hunanladdiadau.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, rhwng 2011 a 2020, bu farw 71 o amaethwyr neu weithwyr amaethyddol o ganlyniad i hunanladdiad – 68 o’r rheiny yn ddynion.

Elusen arall sy’n estyn cymorth i aelodau o’r gymuned amaethyddol yw Tir Dewi.
Mae’r elusen, a gafodd ei sefydlu yn 2015 i gynorthwyo ffermwyr yn y gorllewin drwy amseroedd anodd, bellach yn cynnig gwasanaethau i ffermwyr ar draws Cymru gyfan.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Ffermwyr Ifanc Tir Dewi, Wyn Thomas, wrth Newyddion S4C: “Mae’r tywydd oer wedi effeithio ar nifer o ffermwyr, pan fod ffermwyr gyda phroblemau beth bynnag.
“Pan bod nhw ar stop â TB, pan fod ‘na broblemau ariannol, pan fod ‘na broblemau o fewn y teulu, ma’ codi rhyw fore a bod y dŵr i sied y gwartheg wedi rhewi yn un broblem ychwanegol ac yn lot fowr o waith ychwanegol.
'Chwalu'r stigma'
“Ma’ gwaith ma’ elusennau fel ni ac elusennau eraill wedi bod yn ei ‘neud yn chwalu’r stigma ‘ma ynglŷn â gofyn am help yn bendant yn gwneud gwahaniaeth. Mae ‘na waith mynd eto wrth gwrs.
“Ein gobaith yw ein bod ni’n creu cenhedlaeth o ffermwyr sydd yn barod i rannu problemau, i drafod problemau ac i drafod yr holl ofid sydd ar eu hysgwyddau nhw’n aml.”
Mae Martin yn cytuno bod siarad yn bwysig. Pe byddai o yn gallu dweud un peth wrth ei ffrind gorau Huw, byddai am ddweud wrtho bod rhywun wastad yn barod i wrando.
“’Swn i ‘di jyst gofyn iddo fo os bysa fo ‘di siarad hefo fi a jyst ‘di esbonio problema’ fo ac wrach bysan nhw ddim mor mawr â be’ o’dd o’n meddwl,” meddai.
“Ma’ ‘na gwastad ffordd allan o rwbeth a ma’ ‘na gwastad pobol yn fodlon helpu.”
Os ydy'r erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan S4C Cymorth.