Fferm yn Sir Benfro yn gwerthu ceffyl i'r Cafalri Brenhinol

Fferm yn Sir Benfro yn gwerthu ceffyl i'r Cafalri Brenhinol
Mae fferm geffylau gwedd yn Sir Benfro wedi llwyddo i werthu'r trydydd ceffyl i'r Cafalri Brenhinol.
Gadawodd Willa Rose Eglwyswrw amser cinio ddydd Mawrth, ac mae hi bellach wedi cyrraedd ei chartref newydd yn Llundain.
Willa Rose yw’r gaseg gyntaf i ymuno â’r Cafalri Brenhinol, ond y trydydd ceffyl o fferm geffylau gwedd Dyfed.
Celt oedd y cyntaf i gael ei ddewis yn 2008 a gwerthwyd Ed i’r fyddin ddwy flynedd yn ôl.
“Ma' fe yn fraint i ni fel fferm bach cefn gwlad yn gogledd Sir Benfro, Gorllewin Cymru i dod ben a gwerthu'r ceffylau 'ma i nhw lan yn Llundain.” meddai Huw Murphy o Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed.
“Ma'r fyddin yn dda iawn gyda ni i weud y gwir, ma'r Cafarli yn cadw cysylltu gyda ni ynglŷn â shwt ma'r ceffylau yn datblygu.”
Fel Celt ac Ed, bydd Willa Rose yn geffyl drwm fydd yn cymryd rhan mewn gorymdeithiau ar strydoedd Llundain a seremonïau mawr fel Trooping the Colour.