Gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i 17.8% yn ôl y Cyfrifiad
Gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg i 17.8% yn ôl y Cyfrifiad
Mae 17.8% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg, sy'n ostyngiad bach ers 2011.
Dyna ganfyddiadau diweddaraf Cyfrifiad 2021, sy'n nodi'r ffigyrau swyddogol cyntaf ar y defnydd o'r Gymraeg ers 10 mlynedd.
Yn 2011, roedd 19% o'r boblogaeth yn medru siarad Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad bryd hynny.
Mae'r canlyniadau a gafodd eu cyhoeddi fore dydd Mawrth yn dangos bod 538,000 o siaradwyr Cymraeg o'r bobl sy'n byw yng Nghymru.
Roedd bron i filiwn o siaradwyr Cymraeg yn 1911 (977,000) ond fe syrthiodd hyn i isafbwynt o 504,000 yn 1981.
Codi oedd hanes nifer y siaradwyr rhwng 1981 a 2001, gan ddisgyn eto yn 2021.
Beth oedd y sefyllfa mewn awdurdodau lleol?
Roedd y niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn llai ymhob awdurdod lleol oni bai am Fro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Sir Gaerfyrddin brofodd y gostyngiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, sef 4% ; i lawr o 43.9 % yn 2011 i 39.9% yn 2021.
Roedd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd gyda thua 6,000 o bobl yn fyw yn medru'r iaith yn 2021 o'i gymharu â 2011.
Roedd y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg dros dair oed yng Ngwynedd (73,600) ac yn Sir Gaerfyrddin (72,800).
Roedd y nifer isaf o siaradwyr ym Mlaenau Gwent (4,000) a Merthyr Tudful (5,100).
O ran canran y siaradwyr Cymraeg mewn awdurdodau lleol, roedd y canran uchaf yng Ngwynedd (64.4%) ac Ynys Môn (55.8%).
Roedd y canrannau isaf o siaradwyr Cymraeg ym Mlaenau Gwent (6.2%) a Chasnewydd (7.5%).
Beth am fesul oedran?
Yn 2021, roedd plant a phobl ifanc rhwng pump a 15 oed yn fwy tebygol i gael eu nodi fel siaradwyr Cymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall.
Ond roedd gostyngiad ar gyfer y grŵp oedran hwn o 40.3% yn 2011 i 34.3% yn 2021, gostyngiad o 6.0 pwynt canran - y mwyaf mewn unrhyw grŵp.
Roedd lleihad hefyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg tair a phedair oed o 23.3% yn 2011 i 18.2% yn 2021 - 5.2 pwynt canran yn llai.
Bu lleihad bach yn nifer y siaradwyr Cymraeg oedd yn 16 oed neu'n hŷn rhwng 2011 a 2021.
Ond mae proffil oedran oedolion sy'n siarad Cymraeg i'w weld yn newid.
Yn 2021, pobl rhwng 20 a 44 oed oedd yn fwyaf tebygol i siarad Cymraeg (16.5%), ond yn 2011 pobl dros 75 oed oedd â'r ganran uchaf (17.5%).
12.8% o bobl rhwng 65 a 74 oed oedd yn siarad Cymraeg yn 2021 - sef y grŵp oedran â'r ganran isaf o siaradwyr Cymraeg.