Newyddion S4C

'Tîm y Llywodraeth yw Iran - felly dwi am gefnogi Cymru'

25/11/2022

'Tîm y Llywodraeth yw Iran - felly dwi am gefnogi Cymru'

Mae merch Iranaidd sy’n byw yng Nghymru wedi dweud wrth Newyddion S4C na fydd hi’n cefnogi Iran yn y gêm Cwpan y Byd ddydd Gwener, nac mewn unrhyw gêm arall.

Yn ôl Sahar Saki, artisit Iranaidd sydd yn byw yng Nghaerdydd, nid tîm pêl-droed Iran “yw eim tîm ni, ond dyma dîm y llywodraeth.”

Mae protestiadau wedi eu cynnal ar draws Iran yn dilyn marwolaeth Mahsa Amnini, dynes 22 oed aeth mewn i goma oriau ar ôl cael ei chadw gan heddlu moesoldeb ar 13 Medi yn Tehran.

Ychwanegodd Sahar bod y mwyafrif yn Iran ddim eisiau i dîm pêl-droed Iran gymryd rhan yng Nghwpan y Byd oherwydd maen nhw’n tynnu’r sylw y byd i gyd oddi ar beth sy’n digwydd yn Iran.

“Dwi ddim yn edrych ymlaen at y gêm, dwi’n ei erbyn o, dwi ddim eisiau iddyn nhw chwarae.

'Afonydd gwaed'

I Iranwyr fel Sahar, dydi’r gystadleuaeth ddim yn flaenoriaeth ac mae’n hi’n pryderu ei fod yn tynnu sylw oddi-wrth broblemau’r wlad.

Yn ystod gêm ddiwethaf Iran yn erbyn Lloegr fe wnaeth y chwaraewyr beidio canu’r anthem fel rhan o brotest yn erbyn y Llywodraeth. Ond i Sahar ac i lawer o Iraniaid eraill, dydy hynny ddim yn ddigon.

Pan mae yna afonydd gwaed yn y strydoedd, dydi peidio canu anthem ddim yn ddigon – ’dan ni angen mwy,” meddai.

Cytuno gyda Sahar mae’r Gymraes o dras Iranaidd Elin Parisa Fouladi, fydd yn cefnogi Cymru ddydd Gwener oherwydd “sefyllfa erchyll Iran.”

Image
S4C
Elin Parisa Fouladi

“Dwi’n meddwl bod y ffaith bod nhw heb ganu yr anthem ar blatfform mor fawr yn beryg iawn iddyn nhw ond ydy o’n ddigon? Wel dydi o ddim am stopio be sy’n digwydd yn Iran yn anffodus.  

“Dwi’n meddwl fod lot o bobl yn flin fod tîm pêl-droed Iran yn fodlon chwarae yng Nghwpan y Byd, oedd lot yn disgwyl nhw i ‘boycottio’ yr holl beth,” ychwanegodd Elin.

Mae Reza Mohaddes yn newyddiadurwr Iraniadd sydd yn gweithio i sianel newyddion ‘Iran international’ yn Llundain, ac mae'n dweud bod “pobl Iran wedi disgwyl mwy” gan y tîm cenedlaethol.

Mae’r bobl yn disgwl i’r tîm pêl-droed gefnogi nhw, nid ffordd arall rownd. Mae’r bobl yn disgwyl i’r tîm ddeud wrth y byd beth yn union sy’n mynd ymlaen,” meddai Mr Mohaddes wrth Newyddion S4C.

“Sut mae disgwyl i bobl yn Iran gefnogi’r tîm? Mae merched ar stydoedd Iran yn cael eu lladd, ac mae disgwyliadau; dylai’r tîm cenedlaethol fod yn lais iddynt ar blatfform mor enfawr.”

Image
S4C
Mae Reza Mohaddes yn gweithio i sianel newyddion ‘Iran international’

Ychwangeodd fod pobl Iran wedi siomi mai’r unig brotest gan y chwaraewyr hyd yma oedd peidio canu’r athem.

“Dydi o ddim yn ddigon i’r rheiny sy’n protestio ac yn marw yn ddyddiol.

“Mewn gwirionedd dyw peidio canu’r athem ddim yn beryglus i’r chwaraewyr, mae’r rhan fwyaf yn chwarae i dimau yn Ewrop ac felly ddim yn mynd ’nôl i Iran.”

Er bod cyffro am lwyddiant yng Nghwpan y Byd yn cynhyrfu’r Wal Goch ar hyn o bryd, mae bloeddio dros ryddid yn llawer pwysicach na bloeddio am bêl-droed i bobl Iran.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.