Dyn o Fôn yn cyfaddef twyllo dyn fu farw mewn ymosodiad bwa croes

Mae dyn o Fôn wedi cyfaddef iddo dwyllo dyn arall fu farw mewn ymosodiad bwa croes.
Roedd Richard Wyn Lewis, 51, o Lanfair-yn-Neubwll, Ynys Môn, wedi’i gyhuddo o dwyllo Gerald Corrigan, a’i bartner Marie Bailey allan o £200,000.
Honnodd fod yr arian ar gyfer gwerthu tir, datblygu eiddo a cheffylau.
Ar ôl gwadu 11 cyhuddiad o dwyll ac un cyhuddiad o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder, mae bellach wedi pledio’n euog i bedwar cyhuddiad o dwyll.
Bydd Mr Lewis yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener.
Cafodd aelodau'r rheithgor eu rhyddhau a bydd y saith cyhuddiad sy'n weddill yn cael eu rhoi ar gofnod.
Fe gafwyd cymar Mr Lewis, Siwan McLean, yn ddieuog o wyngalchu arian.
Cafodd Gerald Corrigan ei saethu gyda bwa croes tu allan i'w dŷ ar Ynys Cybi yn 2019.
Nid oedd gan yr achos unrhyw gysylltiad gyda llofruddiaeth Mr Corrigan.
Rhagor yma.