Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Blaenau Ffestiniog
24/11/2022
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Blaenau Ffestiniog brynhawn dydd Sadwrn.
Bu farw'r dyn yn Ysbyty Stoke ddydd Llun ac mae ei deulu a'r Crwner wedi cael gwybod.
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng Mazda MX5 a Land Rover am tua 13:00 ar ddydd Sadwrn, 19 Tachwedd, ar y B4391.
Mae unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y ffordd tua'r un adeg â'r gwrthdrawiad ac sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu gan ddefnyddio rhif cyfeirnod 22000850866.
Dywed Heddlu'r Gogledd nad ydyn nhw mewn sefyllfa i ryddhau manylion y dyn ar hyn o bryd.