Angen cymorth ariannol 'ar frys' i'r sectorau diwylliant a chwaraeon
Mae angen cymorth ariannol "ar frys" ar gyfer y sectorau diwylliant a chwaraeon, yn ôl pwyllgor seneddol.
Mae adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant y Senedd yn dweud nad yw'r sectorau hynny mewn sefyllfa i "oroesi'r storm" pan mae'n dod i filiau ynni uchel a chwyddiant gan fod lleoliadau'n dal i wynebu effeithiau'r pandemig.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £140 miliwn yn y sectorau hyn ar ddechrau'r pandemig, dywed y pwyllgor bod angen mwy o fuddsoddiad erbyn hyn.
Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cymorth i leoliadau chwaraeon a diwylliannol er mwyn eu "hachub".
Maen nhw hefyd yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru roi cyllid ychwanegol i'r sector chwaraeon a diwylliant, ac i ymddiriedolaethau hamdden, er mwyn eu bod yn dod "yn fwy gwyrdd" a sicrhau bod eu hadeiladau yn fwy "effeithlon o ran ynni".
Fel rhan o'r adroddiad, mae'r Pwyllgor Diwylliant wedi clywed gan Gyngor y Celfyddydau fod yr argyfwng presennol i'r sector "mor fawr ag unrhyw adeg dros y ddwy flynedd diwethaf".
Dywedodd Llefarydd Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb i argymhellion y pwyllgor maes o law."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.