Newyddion S4C

Angen 'mwy o bwyslais ar les y fam' yn ystod geni babanod

27/11/2022

Angen 'mwy o bwyslais ar les y fam' yn ystod geni babanod

Mae angen mwy o bwyslais ar les mamau yn ystod ac ar ôl geni babanod yn ôl un sydd yn cynnig cyrsiau hypno-eni.

Mae Hypno-eni yn derm am ddysgu technegau er mwyn gallu ymlacio ac anadlu yn ystod genedigaeth.

Yn ôl Lliwen MacRae does dim digon o sylw yn cael ei roi i les meddyliol a chorfforol y fam.

“Mae ‘na gymaint o bobl yn deud ar ôl i ferch gael profiad trawmatig (yn geni), ‘O wel o leiaf mae’r babi yn iawn’, ‘O wel, at least ‘dach chi yn oce’. Ond beth amdan y fam? Beth amdan yr iechyd emosiynol? Y trawma? Y surgery? Y torri? Y recovery mentally a physically?”

Er ei bod wedi ei magu yn Llanuwchllyn, flwyddyn yn ôl fe symudodd Lliwen a’i theulu i Seland Newydd. Fe olygodd y cyfnod clo ei bod wedi ail asesu ei bywyd ac fe benderfynodd newid cyfeiriad yn ei gyrfa. Dyma pryd y dechreuodd ar y daith i gynnig y cyrsiau hypno-eni a hyfforddi bywyd.

Dyw Lliwen ddim yn hoffi'r gair hypno-eni gan ddweud ei fod yn rhoi'r ddelwedd o berson yn cael ei swyno ac yn colli rheolaeth o’r sefyllfa. ‘Geni grymus’ yw’r term sydd yn well ganddi hi ei ddefnyddio.

Image
S4C
Lliwen MacRae

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth i gyplau am gyrff menywod a’r cysylltiad rhwng y meddwl a’r corff, mae’n gweld y cyrsiau yn ffordd o helpu i fagu hyder merched.

“Dwi’n teimlo bod merched in general yn cael ei conditinio o pan da ni yn blant bach i fod yn blant bach da sy’n gwrando, yn gwneud be mae rhywun yn dweud wrthyn nhw.

“O mhrofiad personol i be bynnag o’n i yn teimlo pan o’n i yn mynd i weld bydwraig neu doctor neu be bynnag, o’n i ddim yn sylweddoli bod gen i yr hawl i neud dewisiadau, bod yr argymhellion i gyd maen nhw yn gynnig i fi, bod fi goro neud o.”

Mae’n dweud bod y mwyafrif sydd yn dod ati hi i wneud y cyrsiau wedi cael genedigaeth drawmatig. Doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd yn ystod y geni nac yn deall bod ganddyn nhw ddewis am yr hyn fyddai yn digwydd meddai.

Pan wnaeth hi eni ei babi cyntaf fe wnaeth y profiad adael ei hol arni hefyd.

“Ar bapur ges i enedigaeth oce. Ond yn emosiynol o’n i wedi dychryn ac o’n i ofn. Ges i bach o drafferth geni’r brych ar ôl geni’r babi. Ac i fod yn onest o’n i ddim yn sylweddoli pa mor trawmatig oedd hynna tan i fi fynd i ddisgwyl yr ail dro a chael bach o debrief efo consultant am be ddaru ddigwydd. A nes i jest torri lawr.”

Erbyn ei thrydedd merch roedd hi wedi dechrau darllen am hypno-eni ac fe benderfynodd eni adref. Mae’n dweud fod y profiad y tro hwnnw wedi bod yn hollol wahanol a phositif.

Image
Lliwen2
Ymfudodd Lliwen a'i theulu i Seland Newydd y llynedd

Does gan Lliwen ddim arbenigedd meddygol ac mae’n dweud ei bod yn agored am hynny gyda’r unigolion sydd yn gwneud ei chyrsiau. Mae’n ofalus meddai i “beidio rhoi unrhyw bias i mewn i’r wybodaeth dwi’n rhannu” ac yn annog merched i siarad gyda'i meddyg neu fydwraig os oes yna broblemau meddygol. Mae hefyd yn cynnig cwrs i’r rhai sydd wedi dewis cael genedigaeth Cesaraidd (C- section).

“Dwi ddim yn annog merched i beidio cael ymyrraeth meddygol. Deud ydw i bod yna ormod yn ddiangen ag bo fi yn rhoi y tools i ferched wneud y penderfyniadau iawn iddyn nhw.”

Mae ei chyrsiau ar gael ar-lein yn Gymraeg, rhywbeth sydd yn bwysig iddi am iddi ddarganfod nad oedd y ddarpariaeth meddai ar gael yn yr iaith pan oedd hi’n chwilio.

Yn ogystal â chynnig cyrsiau mae wedi dechrau grŵp ‘Geni’ ar Facebook.

Bob wythnos mae’n cynnal sgwrs byw am ddim gyda menywod ac yn trafod bob math o faterion, ‘o induction, i C Section, i eni adre, i eni ar y ffordd i’r ysbyty, ar ochr ffordd, jest i normaleiddio yr holl beth ac i agor y conversation, ac i gael llwyfan i ferched gael rhannu mewn ffordd gonest, jest go wir.”

Dywedodd Julie Richards, Cyfarwyddwr Cymru yng Ngholeg Brenhinol y Bydwragedd: “Mae’r RCM wedi bod yn galw ers amser maith, ac yn gyson, am welliannau mewn cymorth i fenywod drwy gydol ac ar ôl beichiogrwydd gyda’u llesiant emosiynol a’u hiechyd meddwl. materion.

"Wrth wraidd hyn mae galwadau cynyddol ar wasanaethau mamolaeth a phwysau staffio. Mae hyn yn golygu nad yw bydwragedd yn gallu treulio'r amser y maen nhw wir eisiau ei wneud gyda menywod i gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.

"Mae dewis menywod am eu beichiogrwydd a’u genedigaeth hefyd yn hollbwysig ac mae’n bwysig bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw a’u bod yn cael eu cefnogi i wneud y dewisiadau sy’n iawn iddyn nhw. Unwaith eto, mae sicrhau bod gan fydwragedd yr amser i’w dreulio gyda menywod i gynnig cyngor a’u cefnogi drwy’r dewisiadau hyn yn hollbwysig.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.